Ffurflen

Cael eich rhif Yswiriant Gwladol

Defnyddiwch eich Cyfrif Treth Personol i fwrw golwg ar eich rhif Yswiriant Gwladol a’i gadw, lawrlwytho llythyr yn cadarnhau beth ydyw. Fel arall, defnyddiwch ffurflen CA5403 i gael eich rhif drwy’r post.

Dogfennau

Bwrw golwg ar eich rhif Yswiriant Gwladol ar-lein (mewngofnodi drwy ddefnyddio Porth y Llywodraeth)

Cael eich rhif Yswiriant Gwladol ar bapur (CA5403)

Manylion

Os oes gennych rif Yswiriant Gwladol eisoes

Os ydych wedi anghofio’ch rhif Yswiriant Gwladol, gallwch ddefnyddio’ch cyfrif treth personol i wneud y canlynol:

  • bwrw golwg dros, argraffu neu lawrlwytho copi o’ch llythyr cadarnhau
  • cadw eich rhif i’r waled ar eich ffôn

Er mwyn bwrw golwg ar eich rhif Yswiriant Gwladol ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.

Cofrestrwch nawr am gyfrif treth personol, os nad oes gennych un yn barod.

Os na allwch gofrestru ar gyfer cyfrif treth personol

Llenwch ffurflen CA5403 ar y sgrin, yna’i hargraffu a’i phostio i CThEM.

Yn dibynnu ar yr atebion a rowch, efallai y bydd angen i chi anfon dogfennau eraill hefyd i gadarnhau pwy ydych i CThEM. Cewch wybod ar ôl llenwi’r ffurflen a oes angen i chi anfon dogfennau eraill.

Efallai y bydd angen i chi anfon hyd at 2 o’r dogfennau canlynol:

  • tystysgrif geni
  • pasbort
  • trwydded yrru lawn neu dros dro (cerdyn plastig)
  • tystysgrif mabwysiadu
  • dogfen deithio’r Swyddfa Gartref
  • trwydded waith
  • tystysgrif dinasyddio
  • tystysgrif briodas neu bartneriaeth sifil
  • tystysgrif gwasanaethu yn Lluoedd Ei Fawrhydi neu’r llynges fasnachol
  • cerdyn adnabod neu feddygol

Gall gymryd hyd at 15 diwrnod i gael eich rhif Yswiriant Gwladol drwy’r post.

Anfonwch y ffurflen i’w hargraffu a’i llenwi i:

Swyddfa Cyfraniadau Yswirian Gwladol a Chyflogwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM
HMRC
BX9 1ST

Cyn i chi ddechrau defnyddio ffurflen bost CA5403

Os ydych yn defnyddio hen borwr, megis Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen CA5403 yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol

Gallwch wneud cais am rif Yswiriant Gwladol os nad ydych wedi cael un o’r blaen.

Cyhoeddwyd ar 9 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 June 2023 + show all updates
  1. Information about saving your National Insurance number to your phone's wallet has been added.

  2. Form CA5403 has been updated with details about which documents you may need to send to confirm your identity to HMRC if you're unable to register for a personal tax account.

  3. Guidance updated as you can now use your personal tax account to view or download, print, save or share a letter with your National Insurance number on.

  4. Updated form CA5403 to provide HMRC with enough information to confirm a NINO.

  5. An online service is now available.

  6. Amended postal address to: National Insurance Contributions and Employer Office, HM Revenue and Customs, BX9 1AN.

  7. Added translation