Deunydd hyrwyddo

Canllawiau brand Cynllun Kickstart

Diweddarwyd 5 November 2021

This deunydd hyrwyddo was withdrawn on

New applications to the Kickstart Scheme have closed.

Applies to England, Scotland and Wales

1. Cyflwyniad

Mae’r deunyddiau yn y pecyn hwn wedi’u paratoi i roi gwybodaeth ac arweiniad i chi ar yr ymgyrch fel y gallwch ei hehangu trwy eich sianeli a’ch rhwydweithiau eich hun.

1.1 Y pecyn cymorth hwn

O ran dweud wrth bobl am y buddion y mae Cynllun Kickstart yn eu darparu, rydym am gyflwyno neges glir a chyson.

Mae strategaeth frand Cynllun Kickstart yn adlewyrchu ac yn hyrwyddo ein gwerthoedd a’n diwylliant, mae’n cael ei chyfleu trwy ein safonau o weithio ac yn cael ei chynrychioli gan ddelwedd ein hymgyrch.

Bydd yr ymgyrch yn cyd-fynd â blaenoriaethau allweddol y llywodraeth, gan gynnwys creu economi gryfach, decach, cymdeithas fwy gofalgar, yn ogystal â Strategaeth Ddiwydiannol y DU.

1.2 Delwedd yr ymgyrch

Delwedd ein hymgyrch yw’r elfen frand a ddefnyddiwn i gynrychioli Cynllun Kickstart fel ymgyrch ynddo’i hun.

Mae’r rhan weladwy yn cynnwys pedair prif elfen: y logo, lliwiau, ffontiau a dyfeisiau graffig. Rhaid i’r rhain fod yn hawdd i’w adnabod ac yn cael eu defnyddio’n gyson ar ein cyfathrebiadau.

Mae’r canllaw hwn wedi’i gynllunio i egluro sut a phryd i ddefnyddio’r elfennau hyn.

2. Y cynllun

2.1 Yr amcan

Bydd y llywodraeth yn cyflwyno Cynllun Kickstart newydd i ariannu’r broses o greu swyddi o ansawdd uchel yn uniongyrchol i bobl ifanc sydd â’r risg uchaf o ddiweithdra hirdymor. Bydd yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc fagu eu hyder a’u sgiliau yn y gweithle, ac ennill profiad a fydd yn gwella eu cyfle o fynd ymlaen i ddod o hyd i waith hirdymor, cynaliadwy.

Bydd hyn yn eistedd ochr yn ochr â sylfaen sicr o gefnogaeth trwy Gynnig Ieuenctid estynedig a ddarperir trwy’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), gan ddarparu ystod o gymorth a dargedir i helpu pobl ifanc i ddod o hyd i waith parhaol.

2.2 Sut mae’n gweithio

Bydd y llywodraeth yn cyflwyno Cynllun Kickstart newydd ym Mhrydain Fawr, cronfa gwerth £2 biliwn i greu cannoedd o filoedd o leoliadau gwaith 6 mis, o ansawdd uchel wedi’u hanelu at y rhai 16-24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol ac y bernir eu bod mewn perygl o ddiweithdra hirdymor.

Bydd y cyllid sydd ar gael ar gyfer pob swydd yn talu 100% o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol am 25 awr yr wythnos, ynghyd â chyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr cysylltiedig a lleiafswm cyfraniadau cofrestru awtomatig y cyflogwr.

2.3 Y buddion

Ar gyfer pob swydd ‘Kickstarter’, bydd y llywodraeth yn:

  • Talu’r gost am 25 awr o waith yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

  • £4.55 i rai dan 18 oed

  • £6.45 i bobl ifanc 18 i 20 oed

  • £8.20 i bobl 21 i 24 oed

Gall cyflogwyr ychwanegu at y taliad hwnnw os dymunant.

2.4 Ein delwedd

Nid logo yn unig yw ein delwedd. Mae’n gynllun sydd wedi’i ddylunio i gynnwys nifer o elfennau craidd sy’n dod ynghyd i greu golwg a theimlad unigryw sy’n gwneud brand Cynllun Kickstart yn hawdd ei adnabod.

2.5 Defnyddio’r canllawiau brand

Gellir defnyddio’r canllawiau brandio ar gyfer digidol ac argraffu gan gynnwys: cyfryngau cymdeithasol, cyfathrebu mewnol ac unrhyw fath arall o gyfryngau cyfathrebu y mae’r sefydliadau sy’n cymryd rhan yn dymuno eu defnyddio.

Fe’u dyluniwyd i ddarparu golwg a theimlad cyson, gan sicrhau bod brand Cynllun Kickstart yn cael ei gynnal trwy gydol pob cyfathrebiad.

2.6 Elfennau ac asedau craidd

Yma gallwch ddod o hyd i’r holl flociau adeiladu sydd eu hangen arnoch i’ch helpu i ddatblygu cyfathrebiadau cymhellol gan ddefnyddio brand Cynllun Kickstart. Bydd y tudalennau canlynol yn eich tywys trwy’r elfennau craidd.

3. Cynrychiolaeth a defnydd brand

3.1 Disgrifio eich rhan yn y Cynllun Kickstart

Rhaid i chi beidio â chamgynrychioli eich rhan yn y Cynllun Kickstart. Rhaid i chi beidio â disgrifio’ch hun fel cyflogwr neu borth Cynllun Kickstart cymeradwy nes eich bod wedi cael cais i gymryd rhan yn y Cynllun Kickstart wedi ei gymeradwyo gennym a’ch bod wedi llofnodi cytundeb grant gyda ni.

3.2 Defnyddio logo Cynllun Kickstart

Mae’r defnydd o’n logo Cynllun Kickstart yn gyfyngedig. Dim ond yn y sefyllfaoedd canlynol y gallwch ddefnyddio logo Cynllun Kickstart:

  • Pan ganiateir hynny o dan gytundeb grant rhyngoch chi a ni

Mae unrhyw ddefnydd o’r logo yn destun:

  • Iddo fod yn cael ei ddefnyddio yn unol â chanllawiau brand Cynllun Kickstart
  • Iddo beidio cael ei ddefnyddio i awgrymu unrhyw ardystiad anfwriadol i’ch gweithgareddau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Ichi bedio gwneud unrhyw beth i ragfarnu ein perchnogaeth o’r logo na’i enw da

Dynamig. Yn symud. Cadarnhaol. Dibynadwy.

Y logo yw elfen fwyaf gweladwy ein delwedd - arwyddnod ar draws holl ddelweddau cyfathrebu Cynllun Kickstart.

Rydym yn falch iawn ohono ac rydym yn mynnu eich bod yn dilyn y canllawiau hyn i sicrhau ei fod bob amser yn edrych ar ei orau.

Y logo dau liw Cynllun Kickstart, yw ein prif liwiau’r logo. Dylid ei ddefnyddio ar gefndiroedd gwyn neu liw golau.

" "

Dim ond ar gefndiroedd gwyn neu liw golau y dylid defnyddio logo Cynllun Kickstart du, a lle nad yw’r logo dau liw yn ymarferol.

!! 2

Dylid defnyddio logo gwyn Cynllun Kickstart i frandio fideos a deunydd eraill sydd â chefndiroedd du neu dywyll, a lle nad yw’r logo dau liw yn ymarferol.

5.1 Parth gwahardd

Er mwyn amddiffyn eglurder a chywirdeb gweledol y logo, cadwch le clir o’i gwmpas bob amser. Gelwir hyn yn ‘parth gwahardd’.

Mae gofod clir logo Cynllun Kickstart yn seiliedig ar uchder ffont Kickstart, sy’n cyfateb i uchder geiriad Kickstart.

5.2 Maint lleiaf

Mae sefydlu maint lleiaf yn sicrhau nad yw effaith a darllenadwyedd y logo yn cael ei gyfaddawdu wrth ei gymhwyso. Defnyddiwch y logo bob amser ar ei faint lleiaf neu’n uwch.

Mewn gwirionedd gallwch wneud y logo mor fawr ag y dymunwch. Cofiwch nad yw mwy bob amser yn well. Fodd bynnag, mae meintiau lleiaf am gymwysiadau logo ar, ac oddi ar y sgrin.

Ni ddylai lled logo Cynllun Kickstart fyth fod yn llai nag Y = 120px mewn digidol neu Y = 42mm mewn print. Y yw lled y gair ‘Kickstart’.

Mae’n bwysig bod ymddangosiad y logo yn parhau i fod yn gyson. Ni ddylid camddehongli, addasu nac ychwanegu at y logo.

Ni ddylid ceisio newid y logo mewn unrhyw ffordd. Dylai ei gyfeiriadedd, lliw a chyfansoddiad aros fel y nodir yn y ddogfen hon - nid oes unrhyw eithriadau.

Peidiwch â newid lliw y logo

" "

Peidiwch â chreu amlinelliad o’r logo

" "

Peidiwch â chylchdroi’r logo

" "

Peidiwch ag ychwanegu effeithiau ar y logo

" "

Peidiwch â gosod y logo mewn blwch

" "

Peidiwch ag anffurfio’r logo

" "

7. Teipograffeg

Mae teipograffeg yn chwarae rhan bwysig wrth gydnabod brand Cynllun Kickstart. Mae’n cyfleu delwedd gyson, unedig ac yn rhoi personoliaeth ar unwaith i’n geiriau ysgrifenedig.

7.1 Ffont sylfaenol

Prif ffont Cynllun Kickstart yw Futura PT (ar gael am ddim fel rhan o unrhyw gynllun Adobe Creative Cloud). Mae’n lân, yn syml, yn unigryw ac yn ddarllenadwy. Cefnogir pob pwysau ac eithrio Oblique Golau a Golau i roi hyblygrwydd i chi wrth greu eich cyfathrebiadau.

7.2 Ffont eilaidd

Y ffont eilaidd Cynllun Kickstart yw Arial. Dim ond pan nad yw Futura PT ar gael y byddwn yn defnyddio’r ffont hwn.

8. Lliwiau

Rhennir ein palet lliw yn ddwy brif haen. Mae’r palet lliw eilaidd yn ddewisol i’r Cyflogwyr, a allai ddefnyddio ein logo Kickstart ar eu deunyddiau hyrwyddo wedi’u brandio.

8.1 Lliwiau sylfaenol - Prif liwiau logo Cynllun Kickstart

Lliw Hex RGB CMYK
Du 000000 R 0 G 0 B 0 C 0 M 0 Y 0 K 100
Llwyd 9e9c9c R 158 G 156 B 156 C 41 M 34 Y 34 K 1

8.2 Lliwiau eilaidd - Corfforaethol ond mwy disglair a mwy amrywiol. Gallai’r defnyddiau gynnwys deunydd ar-lein ac all-lein amrywiol

Lliw Hex RGB CMYK
Coch e64425 R 230 G 68 B 37 C 3 M 89 Y 100 K 0
Porffor 8e004e R 142 G 0 B 79 C 36 M 100 Y 45 K 21
Glas 0d2972 R 13 G 41 B 144 C 100 M 94 Y 26 K 14
Gwyrdd 00885c R 3 G 136 B 91 C 87 M 23 Y 80 K 8
Oren f69055 R 246 G 144 B 85 C 0 M 53 Y 72 K 0
Pinc e97dc8 R 233 G 125 B 200 C 10 M 61 Y 0 K 0
Glas golau 4c9ae4 R 76 G 154 B 228 C 65 M 29 Y 0 K 0
Gwyrdd golau 94d4cc R 148 G 136 B 91 C 41 M 0 Y 23 K 0

9. Deunydd hyrwyddo

Gallwch gyrchu canllaw i gyflogwyr a chanllaw i unigolion.

Mae yna hefyd asedau digidol eraill ar gael i chi eu defnyddio.

Cysylltwch â kickstart.supportscheme@dwp.gov.uk gydag unrhyw ymholiadau am frandio.