Deunydd hyrwyddo

Awgrymiadau am wneud cais llwyddiannus i Gynllun Kickstart

Diweddarwyd 5 November 2021

This deunydd hyrwyddo was withdrawn on

New applications to the Kickstart Scheme have closed.

Applies to England, Scotland and Wales

1. Beth yw’r cynllun?

Mae Cynllun Kickstart yn gynllun gwerth £2 biliwn i greu miloedd o leoliadau gwaith 6-mis safon uchel ar gyfer pobl 16 i 24 oed.

Mae Cynllun Kickstart yn rhan o’r cynllun ar gyfer swyddi ac mae’n cefnogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau newydd fydd yn eu helpu i symud i gyflogaeth barhaol ar ôl iddynt gwblhau eu lleoliad gwaith Cynllun Kickstart.

Mae Cynllun Kickstart yn darparu’r cyfle i gael hyd i gronfa fawr o bobl ifanc â photensial i sefydliadau o bob maint, ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus, a gwirfoddol.

Ar gadarnhau dechrau’r swydd, telir £1500 i’r cyflogwr am bob lleoliad swydd i gefnogi costau cyffredinol, hynny yw cyflogres, cyflwyno, arweinyddiaeth, ac yn y blaen.

Bydd y cyllid sydd ar gael i bob swdd yn cwmpasu’r gyfradd Isafswm Cyflog Cenedlaethol am 25 awr yr wythnos, yn ogystal â cyfraniadau Yswiriant Gwladol cysylltiedig y cyflogwr, ac isafswm cyfraniadau cofrestru awtomatig y cyflogwr.

Awgrymiadau am wneud cais llwyddiannus i Gynllun Kickstart

2. Yw Cynllun Kickstart yn addas ar gyfer fy sefydliad?

Ariennir lleoliadau gwaith Cynllun Kickstart trwy ddefnyddio cytundeb grant. Mae rheolau ynghylch pwy gellir talu grantiau iddynt.

Mae rhaid gwirio i ddangos bod eich sefydliad yn sefydlog, parchus, a didyled.

Mae’n fwy tebygol cewch eich derbyn os:

  • ydych wedi bodoli ers ychydig amser
  • ydych yn cyflwyno cyfrifon yn rheolaidd ac yn ddiweddar
  • oes gennych sgôr credyd sydd mewn categori risg isel
  • yw’r tebygolrwydd yn isel bydd eich busnes yn methu’n fuan
  • oes gennych ddigon o asedau rhydd i dalu’ch dyledion *nad oes gennych unrhyw ddyfarniadau llys sirol (CCJs) diweddar

Caiff y ffactorau hyn eu hystyried wrth asesu’ch cais i Gynllun Kickstart. Nid yw methu un neu ragor o’r rhain yn golygu na chewch eich derbyn.

3. Awgrym 1

3.1 Dangoswch fod eich sefydliad yn gallu darparu lleoliad gwaith Cynllun Kickstart 6-mis a bod eich sefydliad yn sefydlog ac yn ariannol ddiysgog.

Gallwch ddangos hyn mewn nifer o ffyrdd.

4. Awgrym 2

4.1 Mae rhaid bod eich lleoliad gwaith Cynllun Kickstart yn rhoi profiad ystyrlon o waith.

Mae hyn yn golygu y dylai’r gwaith fod yn ystyrlon, â dyletswyddi, cyfrifoldebau, ac amcanion clir.

Er enghraifft:

Byddai swydd gweinyddol mewn swyddfa, yn gweithio fel aelod o dîm â’r cyfle i gyfrannu i waith y swyddfa ehangach a dysgu sut i ddefnyddio rhaglen TG newydd, yn cael ei hystyried yn ystyrlon.

I’r gwrthwyneb, ni fyddai swydd yn gweithio ar eich pen eich hun, yn gwneud gwaith llaw ailadroddus i’r rhan fwyaf o’r diwrnod, heb gyfle i ddysgu sgiliau newydd, yn cael ei hystyried yn ystyrlon.

5. Awgrym 3

5.1 Dylai holl leoliadau gwaith Cynllun Kickstart fod yn swyddi ychwanegol.

Ni ddylai lleoliadau gwaith Cynllun Kickstart gymryd lle swyddi sy’n bodoli’n barod, na swyddi roeddech yn bwriadu eu creu heb Gynllun Kickstart.

Mae hyn yn golygu ni allwch ddefnyddio Cynllun Kickstart i ddisodli rhywun sydd eisoes mewn swydd, nac i lenwi swydd wag oedd eisoes yn bodoli.

6. Awgrym 4

6.1 Dylai lleoliadau gwaith Cynllun Kickstart wella’r siawns o gael gwaith yn y dyfodol

Mae rhaid i chi ddangos eich bod yn bwriadu cefnogi’r person ifanc ar ei leoliad gwaith Cynllun Kickstart, fel ei fod yn gwella ei siawns o gael gwaith unwaith bod ei leoliad gwaith 6-mis wedi dod i ben.

Dylai lleoliad gwaith Cynllun Kickstart roi sgiliau gweithle i’r person ifanc a fydd yn gwneud gwahaniaeth i’w ragolygon o gael gwaith yn y dyfodol.

Gall hyn gynnwys hyfforddi, y cyfle i geisio tasgau newydd a meithrin sgiliau newydd, neu ei helpu i wella eu sgiliau presennol.

Wrth ddewis derbynwyr Grant Cynllun Kickstart, bydd y llywodraeth yn gwirio er mwyn sicrhau bod yr holl feini prawf hyn yn cael eu diwallu.

Gallwch wneud cais am greu lleoliad gwaith Cynllun Kickstart.