Ffurflen

Taflen ffeithiau gwaith a ganiateir

Diweddarwyd 8 April 2024

1. Beth yw gwaith a ganiateir?

Gall gwaith a ganiateir eich helpu i ddysgu sgiliau newydd, adeiladu eich hyder a dechrau meddwl am fathau o waith y gallech eu gwneud.

Os oes gennych anabledd, salwch, neu gyflwr iechyd efallai y gallwch wneud rhywfaint o waith a chadw eich taliadau a chredydau Yswiriant Gwladol am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA).

Mae gwaith a ganiateir yn golygu y gallwch:

  • gweithio am lai nag 16 awr yr wythnos
  • ennill dim mwy na £183.50 bob wythnos, ar ôl didynnu treth ac Yswiriant Gwladol
  • cael eich swm arferol o fudd-dal
  • adeiladu eich sgiliau a’ch profiad
  • cael eich cefnogi tra’ch bod yn gweithio - rydym yn galw hyn yn waith a ganiateir â chymorth.

Nid oes cyfyngiad ar nifer yr wythnosau y gallwch wneud gwaith a ganiateir neu waith a ganiateir â chymorth.

2. Gwaith a ganiateir â chymorth

Mae gwaith a ganiateir â chymorth i bobl sydd ag anabledd, salwch neu gyflwr iechyd na allant weithio mwy nag ychydig oriau bob wythnos. Goruchwylir y gwaith gan weithiwr cymorth proffesiynol. Gweithiwr cymorth proffesiynol yw rhywun sy’n gweithio i fudiad cyhoeddus neu wirfoddol.

3. Beth mae rhaid i chi ei wneud os ydych eisiau gweithio

Cyn i chi ddechrau unrhyw waith, mae rhaid i chi lenwi ffurflen gwaith a ganiateir PW1W a’i phostio i’r cyfeiriad ar frig unrhyw lythyrau ESA rydym wedi eu hanfon atoch. Peidiwch â mynd â’r ffurflen hon i’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith.

Os ydych yn credu bod y gwaith rydych am ei wneud yn waith a ganiateir â chymorth, mae rhaid i’ch gweithiwr cymorth proffesiynol lenwi ei adran ar y ffurflen gwaith a ganiateir PW1W.

Byddwn yn dweud wrthych os yw’r gwaith rydych am ei wneud yn bodloni amodau gwaith a ganiateir. Os ydych yn gwneud gwaith nad yw’n bodloni’r amodau, gallech golli’ch budd-dal.

Os na allwch ddweud wrthym cyn i chi ddechrau gweithio, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gwaith a ganiateir PW1W a’i hanfon yn ôl ar unwaith.

I gael copi o’r ffurflen gwaith a ganiateir PW1W, ewch i www.gov.uk a chwiliwch am PW1W neu ein ffonio ar 0800 169 0310.

Mae rhaid i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith ar unwaith am unrhyw waith rydych yn ei wneud. Os na wnewch hyn, efallai y telir gormod o ESA i chi. Efallai y bydd rhaid i chi dalu hwn yn ôl a thalu cosb hefyd.

4. Sut gall gwaith a ganiateir newid eich budd-daliadau eraill?

Os ydych yn cael budd-dal arall oherwydd nad ydych yn gweithio (er enghraifft Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor), efallai y bydd eich budd-dal yn cael ei leihau neu ei atal os byddwch yn gwneud unrhyw waith. Siaradwch â’ch anogwr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith cyn i chi ddechrau unrhyw waith.

Os ydych yn cael Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor a’ch bod yn ystyried dechrau gwaith a ganiateir, mae rhaid i chi siarad â’ch awdurdod lleol ar unwaith, oherwydd gallai’r swm a gewch newid.

I gysylltu â’ch awdurdod lleol ewch i www.gov.uk/find-local-council

5. Pam mae angen gwybodaeth bersonol ar DWP a sut rydym yn ei thrin

Rydym yn trin gwybodaeth bersonol yn ofalus. Gallwn ei ddefnyddio at unrhyw un o’n dibenion. I ddysgu mwy am hawliau gwybodaeth a sut rydym yn defnyddio gwybodaeth, ewch i www.gov.uk/dwp/siarter-gwybodaeth-bersonol.