Deunydd hyrwyddo

Profiad Matthew o Hyderus o ran Anabledd gyda Zurich

Diweddarwyd 21 December 2023

Profiad Matthew o Hyderus o ran Anabledd gyda Zurich

Mae Matthew yn rhannol ddall (wedi ei gofrestru’n ddall) oherwydd cyflwr genetig anghyffredin a etifeddir a elwir Labers Congenital Amaurosis. Mae ganddo olwg oddeutu 5%, sy’n effeithio ar liw a dallineb nos.

Ymunodd Matthew â Zurich i ddechrau trwy raglen Leonard Cheshire Change 100. Cafodd ei hun gyda rheolwr, mewn tîm, a sefydliad, a oedd â phrofiad o drefnu addasiadau rhesymol, yr hyder i weithio gydag ef yn gyfartal, a chyda’r cyfle i’w alluogi i ddysgu llawer am y diwydiant. Dilynodd hyn gydag interniaeth arall yn Senedd yr Alban, cyn sicrhau swydd barhaol fel triniwr hawliadau gyda Zurich.

Dywed:

I mi, y gwir hyderus o ran anabledd yw credu mewn cyfleoedd cyffredin a llwyddiant i bobl sy’n ddall neu’n rhannol ddall - yn hytrach na bod unrhyw un o’r rhain yn anghyffredin. Bod yn barod i gwestiynu sut y gall cyfleoedd, prosesau ymgeisio, a sefydlu rôl ac amgylchedd gwaith, fod yn gynhwysol. Mae amrywiaeth mewn pobl ac arferion yn ein byd, yn eu gwneud yn lle cyfoethocach, gwell a mwy llwyddiannus i fod.

Mae Zurich wedi dod yn bell gyda hyn mewn ychydig flynyddoedd. Rwy’n falch o fod yn rhan ohonyn nhw, a’n sgwrs am faint o dir cynhwysol y gellir ei gwmpasu eto.

""

Matthew yn Zurich

Mae Karen yn myfyrio ar ei phrofiadau o roi cymorth i Matthew yn Zurich

Ymunodd Matthew â fy nhîm yn Farnborough fel rhan o’r rhaglen interniaeth Change 100.

Gan fy mod wedi gweithio mor agos ag interniaeth rhannol ddall arall yn ystod y flwyddyn flaenorol, roeddwn yn hyderus yn trafod anabledd Matthew gydag ef a gofyn pa gymorth fyddai ei angen i fynd o amgylch y swyddfa ac ati. Nid yr eliffant oedd yn yr ystafell mwyach ac roeddwn i lawer yn fwy agored o ganlyniad.

Dysgwyd gwersi bach gennym yn ystod lleoliad Matthew ac roedd hyn yn cynnwys ein peiriannau diodydd. Er bod y cyfluniad yn union yr un fath ar bob peiriant yn Farnborough, pan aeth Matthew i swyddfa wahanol, roedd cyfluniad eu peiriannau’n wahanol, a olygai fod angen i Matthew ddysgu a chofio safle’r ddiod a ffefrir ganddo. Gall hyn ymddangos yn fach, ond nid yw hyn yn ystyriaeth i staff nad oes ganddynt nam ar eu golwg, a gall wneud cymaint o wahaniaeth i’r rhai sydd â nam ar eu golwg. Tynnodd sylw hefyd at yr hyn y gallwn mor hawdd ei gymryd yn ganiataol a pheidio â rhoi eiliad o feddwl iddo.

Roeddwn yn falch iawn o glywed bod Matthew wedi sicrhau rôl barhaol gyda’n swyddfa yn Glasgow ac roeddwn ond yn rhy barod i rannu gwybodaeth a helpu mewn unrhyw ffordd gyda’r rheolwr cyfleustodau a rheolwr recriwtio Matthew.

Rwy’n falch o weithio i sefydliad sy’n cefnogi mentrau fel Change 100, a Hyderus o ran Anabledd, ac os byddaf yn myfyrio ar fy mhrofiad, byddai angen i ni dynnu’r ffactor ofn allan o anabledd yn y gweithle.