Gweithredu fel dirprwy mewn gorchymyn llys: enghraifft ddilys
Detholiad swyddogol o weithredu fel dirprwy mewn gorchymyn o’r Llys Gwarchod, ac esboniad o’r hyn sy’n gwneud y ddogfen yn ddilys.
Dogfennau
Manylion
Mae’r ddogfen ar y dudalen hon yn enghraifft o weithredu fel dirprwy mewn gorchymyn o’r Llys Gwarchod (yn y Saesneg), ac at ddibenion cyfeirio yn unig.
Mae gorchmynion dirprwyaeth yn offerynnau cyfreithiol sy’n rhoi awdurdod i un neu fwy o bobl (y ‘dirprwy’ neu ‘ddirprwyon’) wneud penderfyniadau dros berson arall sydd heb alluedd meddyliol. Mae galluedd meddyliol yn golygu’r gallu i wneud rhai penderfyniadau drostynt eu hunain.
Mae gorchmynion dirprwyaeth yn cwmpasu penderfyniadau ynglŷn â materion eiddo neu ariannol (a elwir yn ‘eiddo a materion’ ar y gorchymyn llys) neu ofal iechyd a phersonol (‘lles personol’). Gall yr un person weithredu fel dirprwy ar gyfer y ddau fath o benderfyniad, ond yn yr achos hwnnw, bydd ganddynt ddau orchymyn ar wahân.
I fod yn ddilys, bydd sêl foglynnog gron y llys ar bob tudalen gorchymyn dirprwyedig eiddo a materion ariannol. Bydd sêl inc (weladwy) hefyd ar y dudalen flaen sy’n dangos y dyddiad y mae’r llys wedi cyhoeddi’r gorchymyn (ei anfon). Yr unig wahaniaeth gyda gorchymyn lles yw lle rydyn ni’n gosod sêl inc gron (weladwy) y Llys Gwarchod yn lle sêl foglynnog. Mae’r sêl gron fel arfer yn cael ei gosod ar waelod y gorchymyn ar yr ochr dde.
Bydd y gorchymyn hefyd yn dangos enw’r dirprwy neu ddirprwyon ac enw’r person y maent yn gwneud penderfyniadau ar ei ran. Yna mae’r gorchymyn yn rhestru’r mathau o benderfyniadau y gall y dirprwy neu ddirprwyon eu gwneud i’r person heb alluedd meddyliol a’r rheini na allant eu gwneud.
Gallwch hefyd edrych ar Gofrestr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gadarnhau bod gan rywun ddirprwy yn gweithredu ar ei ran/rhan.
Gweler y tudalennau ar weithredu fel dirprwy am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r pŵer y mae gorchymyn dirprwyaeth yn ei roi i wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall.
Mae tudalennau ar wahân yn dangos enghreifftiau o atwrneiaeth arhosol ac atwrneiaeth barhau, sef offerynnau cyfreithiol eraill ar gyfer gwneud penderfyniadau ar ran rhywun arall.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 October 2022 + show all updates
-
Update to guidance on what deputy orders should look like and the difference between the two types.
-
Added translation
-
Added translation
-
First published.