Canllawiau

Cosbau a sancsiynau o ran dilyn ac olrhain tybaco — CC/FS76

Diweddarwyd 9 November 2023

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am y cynllun Dilyn ac Olrhain Tybaco (TT&T). Mae hefyd yn rhoi gwybod i chi am y cosbau y gallwn eu codi, a sancsiynau eraill y gallwn eu defnyddio, os byddwch yn torri rheoliadau’r cynllun hwnnw.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn un o gyfres o daflenni gwybodaeth ynghylch gwiriadau cydymffurfio. I weld rhestr o’r taflenni, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog a gysylltodd â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Ynglŷn â dilyn ac olrhain tybaco

Mae TT&T yn dilyn cynhyrchion o’r adeg weithgynhyrchu neu fewnforio i’r DU, hyd at y manwerthwr cyntaf. Caiff pecynnau tybaco eu sganio drwy’r gadwyn gyflenwi ac mae’r data’n cael eu storio yn ystorfa’r DU.

Ar gyfer cynhyrchion tybaco yng Ngogledd Iwerddon, bydd data’n cael eu cyflwyno i’r ystorfeydd yn y DU a’r UE.

Cofrestru ar gyfer y cynllun dilyn ac olrhain tybaco

Mae’n ofynnol i fusnesau sy’n ymwneud â chadwyn gyflenwi cynhyrchion tybaco gofrestru gyda’r rhoddwr IDs ar gyfer y DU. Mae hyn yn cynnwys busnesau sy’n:

  • gweithgynhyrchu neu fewnforio
  • storio neu’n gwerthu i fasnachau neu i’r cyhoedd
  • trawslwytho (symud cynhyrchion o un cerbyd i un arall)

Dentsu Tracking yw’r rhoddwr IDs ar gyfer y DU. Pan fyddwch yn cofrestru gyda nhw, byddant yn rhoi cod Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EOID) i chi.

I ddysgu rhagor am yr hyn y mae angen i’r busnesau hyn ei wneud, ewch i GOV.UK a chwiliwch am ‘tobacco product traceability’.

Bodloni eich ymrwymiadau yn unol â’r gyfraith

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, rhaid i unrhyw un yn y DU sy’n prynu ac yn gwerthu sigaréts a thybaco rholio â llaw gydymffurfio â’r rheoliadau TT&T. Mae hyn er mwyn sicrhau eu bod yn delio â chynhyrchion tybaco cyfreithlon, y telir tollau arnynt yn y DU, yn unig.

Mae gwahanol reoliadau sy’n berthnasol, yn dibynnu ar ba ran o’r gadwyn gyflenwi y mae eich busnes yn perthyn iddi. I gael gwybod am yr ymrwymiadau penodol ar gyfer eich busnes, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘rules for tobacco products’.

Cosbau am beidio â chydymffurfio â’ch ymrwymiadau

Gwnaeth Deddf Cyllid 2022 gyflwyno sancsiynau llymach, er mwyn mynd i’r afael ag achosion o werthu tybaco anghyfreithlon.

Os gwelwn nad ydych chi na’ch busnes wedi cydymffurfio â’r ymrwymiadau perthnasol, efallai y byddwn yn codi cosb arnoch. Mae sancsiynau pellach hefyd a all fod yn berthnasol. Rydym yn esbonio’r rhain yn yr adran nesaf o’r daflen wybodaeth hon.

Mae’r gyfundrefn gosbau sy’n berthnasol i TT&T yn seiliedig ar 2 ffactor:

  • faint o unedau o gynhyrchion tybaco sydd wedi eu canfod sy’n torri’r rheoliadau
  • sawl gwaith y canfuwyd eich bod wedi torri’r rheoliadau o’r blaen

Uned yw 20 sigarét neu 30g o dybaco rholio â llaw (HRT).

Gallwch weld y cosbau sy’n berthnasol i bob sefyllfa yn y tabl isod.

Sawl gwaith mae’r busnes wedi torri’r rheoliadau Llai na 100 o unedau a ganfuwyd ar yr achlysur hwn 100 i 299 o unedau a ganfuwyd ar yr achlysur hwn 300 i 499 o unedau a ganfuwyd ar yr achlysur hwn 500 neu fwy o unedau a ganfuwyd ar yr achlysur hwn
Unwaith £2,500 £5,000 £7,500 £10,000
Ddwywaith £5,000 £7,500 £10,000 £10,000
Deirgwaith neu fwy £7,500 £10,000 £10,000 £10,000

Sancsiynau pellach

Os gwelwn eich bod wedi torri’r rheoliadau, gallwn hefyd roi sancsiynau pellach ar waith. Ni fyddwn yn rhoi unrhyw sancsiynau ar waith os mai dyma’r tro cyntaf i ni ganfod eich bod wedi torri’r rheoliadau.

Mae 2 sancsiwn y gallwn eu rhoi ar waith. Gallwn:

  • dynnu cynhyrchion tybaco dilys
  • dadactifadu eich EOID neu’ch cod adnabod cyfleusterau (FID)

Tynnu cynhyrchion tybaco dilys

Mae’r sancsiwn hwn yn caniatáu i ni atafaelu unrhyw gynhyrchion tybaco dilys sydd ar eich safle ochr yn ochr â chynhyrchion tybaco anghyfreithlon.

Dadactifadu eich EOID neu’ch cod adnabod cyfleusterau (FID)

Mae’r sancsiwn hwn yn caniatáu i ni ddadactifadu eich EOID neu’ch cod adnabod cyfleuster am gyfnod o amser. Mae’r cyfnod hiraf y gallwn ddadactifadu eich EOID neu’ch cod adnabod cyfleuster yn dibynnu ar y canlynol:

  • sawl uned o gynhyrchion tybaco yr ydym wedi canfod eu bod yn torri’r rheoliadau
  • sawl gwaith rydym wedi canfod eich bod wedi torri’r rheoliadau o’r blaen – does dim ots faint o unedau a ganfuwyd ar yr achlysuron hynny

Uned yw 20 sigarét neu 30g o dybaco rholio â llaw (HRT).

Gallwch weld y cyfnodau dadactifadu hiraf sy’n berthnasol i bob sefyllfa yn y tabl isod.

Sawl gwaith mae’r busnes wedi torri’r rheoliadau Llai na 100 o unedau a ganfuwyd ar yr achlysur hwn 100 i 299 o unedau a ganfuwyd ar yr achlysur hwn 300 i 499 o unedau a ganfuwyd ar yr achlysur hwn 500 neu fwy o unedau a ganfuwyd ar yr achlysur hwn
Unwaith Amherthnasol Amherthnasol Amherthnasol Amherthnasol
Ddwywaith 6 mis 6 mis 6 mis 5 mlynedd
Deirgwaith neu fwy 5 mlynedd 5 mlynedd 5 mlynedd 5 mlynedd

Os credwn y dylai’r sancsiwn dadactifadu fod ar waith, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi. Byddwn yn rhoi cyfle i chi roi gwybod i ni pam rydych yn credu na ddylem ddadactifadu eich EOID neu’ch cod adnabod cyfleuster. Yna, byddwn yn ystyried yr holl dystiolaeth am eich achos ac yn gwneud ein penderfyniad. Os penderfynwn ddadactifadu eich EOID neu’ch cod adnabod cyfleuster, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi am y canlynol:

  • dyddiad dechrau’r dadactifadu
  • am faint o amser y bydd y dadactifadu yn para

Gallwch apelio yn erbyn ein penderfyniad. Mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig, gallwn oedi cyn y dadactifadu nes bod y tribiwnlys annibynnol sy’n delio â threthi wedi gwrando ar eich apêl. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn pan fyddwn yn anfon ein penderfyniad atoch.

Os ydych yn anghytuno

Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn.

Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:

  • anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
  • cael eich achos wedi’i adolygu gan un o swyddogion CThEF na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
  • trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ar y mater

Gallwch ddysgu rhagor am apeliadau yn arweiniad HMRC1, ‘Sut i ofyn am adolygiad o benderfyniad gan CThEF’. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC1’.

Rhagor o wybodaeth

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.

Os ydych yn anfodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.