Canllawiau

Gwiriadau cydymffurfio: cosbau mewn perthynas â chyflwyno adroddiadau gwlad wrth wlad (CC/FS59)

Diweddarwyd 11 May 2022

Cosbau mewn perthynas â chyflwyno adroddiadau gwlad wrth wlad

Mae’r daflen wybodaeth hon yn ymdrin â chosbau y gallwn eu codi mewn perthynas â chyflwyno adroddiadau gwlad wrth wlad. Mae’r cosbau hyn yn cynnwys cosbau am wybodaeth anghywir a chosbau am beidio â bodloni ymrwymiadau o dan Reoliadau Trethi (Erydiad Sylfaenol a Newid Elw) (Cyflwyno adroddiadau Gwlad wrth Wlad) 2016.

Pryd y gallwn godi cosb arnoch

Mae’n bosibl y bydd CThEM yn codi cosb arnoch os na fyddwch yn bodloni un neu fwy o’r ymrwymiadau canlynol:

  • cyflwyno adroddiad gwlad wrth wlad erbyn y dyddiad cau
  • rhoi gwybod i ni am gyflwyno adroddiadau gwlad wrth wlad erbyn y dyddiad cau
  • rhoi rhagor o wybodaeth i ni (at ddibenion pennu cywirdeb gwybodaeth mewn adroddiad gwlad wrth wlad) cyn pen yr amser a nodwyd

Mae’n bosibl y byddwn yn codi cosb arnoch am wybodaeth anghywir os byddwch yn anfon y naill neu’r llall o’r canlynol atom:

  • adroddiad gwlad wrth wlad anghywir
  • gwybodaeth ychwanegol y gofynnwn amdani er mwyn gwirio bod yr adroddiad yn gywir, ond mae’r wybodaeth honno’n anghywir

Mae anghywirdeb yn wall sy’n atal CThEM, gweinyddiaeth dreth dramor neu awdurdod cyllidol rhag gallu gwirio’r adroddiad gwlad wrth wlad yn gywir.

Os ydych yn gofyn i rywun arall (megis cyflogai neu ymgynghorydd) wneud rhywbeth ar eich rhan, mae’n rhaid i chi wneud cymaint ag y gallwch i wneud yn siŵr nad oes anghywirdeb. Os na fyddwch yn gwneud hyn, mae’n bosibl y codwn gosb arnoch.

Adegau posibl pan na fyddwn yn codi cosb arnoch am anghywirdeb

Mae’n bosibl na fyddwn yn codi cosb arnoch am anghywirdeb os yw’r canlynol yn wir:

  • gwnaethoch gymryd gofal rhesymol i gael pethau’n iawn, ond roedd eich adroddiad gwlad wrth wlad yn dal yn anghywir
  • rydych yn rhoi gwybod i ni ar unwaith os ydych yn sylwi bod eich adroddiad yn anghywir – gall hyn gynnwys anfon adroddiad diwygiedig

Os ydych yn credu bod esgus rhesymol yn berthnasol

Efallai na fyddwch yn agored i gosb am y methiant os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae gennych esgus rhesymol dros y methiant
  • nid oedd y methiant yn fwriadol
  • rhoesoch wybod i ni heb oedi afresymol ar ôl i’ch esgus rhesymol ddod i ben

Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth eich rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth mewn pryd er i chi gymryd gofal rhesymol i’w fodloni. Gall hyn fod oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth neu gyfuniad o ddigwyddiadau. Unwaith y bydd yr esgus rhesymol wedi dod i ben, mae’n rhaid i chi unioni pethau heb oedi diangen.

Wrth benderfynu a oes gennych esgus rhesymol, byddwn yn ystyried amgylchiadau’r methiant, a’ch amgylchiadau a’ch galluoedd penodol. Gallai hynny olygu na fyddai’r hyn sy’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos un person o reidrwydd yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos rhywun arall. Os ydych o’r farn bod gennych esgus rhesymol, rhowch wybod i ni. Os derbyniwn fod gennych esgus rhesymol, ni fyddwn yn codi cosb arnoch.

Os oedd unrhyw beth ynghylch eich iechyd neu’ch amgylchiadau personol a’i gwnaeth yn anodd i chi ein hysbysu ynghylch eich rhwymedigaeth treth, rhowch wybod i’r swyddog sy’n cynnal y gwiriad. Bydd rhoi gwybod iddo yn ei alluogi i ddwyn hyn i ystyriaeth wrth ystyried a oedd gennych esgus rhesymol.

I gael rhagor o wybodaeth am esgusodion rhesymol, ewch i www.gov.uk/anghytuno-phenderfyniad-treth/esgusodion-rhesymol.

Sut rydym yn cyfrifo swm cosb

Rydym yn codi cosb o £300 am beidio â bodloni ymrwymiad. Gallwn godi cosb am bob methiant a wneir yn ystod cyfnod adrodd. Mae hyn yn golygu y gellid cael cosbau lluosog yn ystod cyfnod adrodd.

Os nad ydych wedi bodloni ymrwymiad erbyn yr adeg ein bod wedi rhoi gwybod i chi am y gosb o £300, yna mae’n bosibl y byddwn yn codi cosbau dyddiol o £60. Byddwn yn codi’r gosb am bob diwrnod nad ydych yn bodloni’r ymrwymiad hwnnw.

Ar gyfer anghywirdebau mewn adroddiad gwlad wrth wlad, neu mewn gwybodaeth ychwanegol yr ydym wedi gofyn amdani, efallai y byddwn yn codi cosb o hyd at £3,000 am bob adroddiad y mae anghywirdeb yn ymwneud ag ef.

Wrth asesu swm cosb, rydym yn ystyried:

  • nifer y mathau o wallau
  • a oes gwall perthnasol
  • a effeithir ar fwy nag un awdurdodaeth
  • a yw’r cwmni wedi anfon adroddiad gwlad wrth wlad anghywir i CThEM o’r blaen
  • a yw’r cwmni wedi anfon gwybodaeth atodol anghywir o’r blaen ynghylch adroddiad gwlad wrth wlad
  • a wnaeth y cwmni ddatgelu’r gwall i CThEM

Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Efallai y byddwn yn ystyried pethau eraill pan fyddwn yn asesu swm y gosb.

Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am gosb

Os byddwn yn ystyried eich bod yn agored i gosb am beidio â bodloni’ch ymrwymiadau, byddwn yn ysgrifennu atoch. Pan fyddwn yn ysgrifennu atoch, byddwn yn gofyn i chi fodloni’ch ymrwymiadau. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi swm y gosb y gallwn ei chodi. Os oes unrhyw beth ynglŷn â’r gosb nad ydych yn cytuno ag ef, neu os ydych o’r farn bod gwybodaeth nad ydym eisoes wedi’i hystyried, dylech roi gwybod i ni ar unwaith.

Os byddwn yn dod o hyd i anghywirdeb, byddwn yn rhoi cyfle i chi gywiro’r adroddiad gwlad wrth wlad neu’r wybodaeth ychwanegol. Os nad yw’n anghywirdeb, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni pam mae’r wybodaeth yn gywir. Gelwir hyn yn gais am gywiro gwall.

Gall y cais am gywiro gwall gynnwys y cyfle i chi gywiro’r gwall er mwyn osgoi cosbau. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn cymryd unrhyw gamau pellach os byddwch yn cyflwyno cywiriad.

Ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw beth rydych wedi rhoi gwybod i ni amdano, byddwn wedyn yn gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • anfon hysbysiad o asesiad o gosb atoch
  • peidio â chymryd camau pellach

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog ar y gosb hefyd os nad ydych yn ei thalu mewn pryd.

Os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol

Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o erlyn os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol. Er enghraifft, rhowch wybodaeth (ar lafar neu mewn dogfen) i ni yr ydych yn gwybod nad yw’n gywir.

Os ydych yn anghytuno

Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.

Gallwch apelio yn erbyn unrhyw gosbau a godwn arnoch mewn perthynas ag adroddiad gwlad wrth wlad. Gallwch apelio drwy ysgrifennu atom cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad y gwnaethom roi gwybod i chi am y gosb. Os ydych yn penderfynu apelio, mae’n rhaid i chi roi gwybod y rhesymau dros apelio pan fyddwch yn ysgrifennu atom.

Eich hawliau pan fyddwn yn ystyried codi cosbau

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi rhai hawliau pwysig i chi. Os ydym yn ystyried codi cosbau arnoch, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi fod yr hawliau hyn yn gymwys, ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall. Mae’r hawliau hyn fel a ganlyn:

  • os byddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau i chi i’n helpu i benderfynu p’un ai i godi cosb arnoch, mae gennych hawl i beidio â’u hateb — eich penderfyniad chi’n gyfan gwbl yw faint o help y byddwch yn ei roi i ni pan fyddwn yn ystyried cosbau
  • wrth benderfynu a ydych am ateb ein cwestiynau neu beidio, efallai y byddwch am gael cyngor gan ymgynghorydd proffesiynol — yn enwedig os nad oes un gennych yn barod
  • os ydych yn anghytuno â ni ynglŷn â’r dreth neu unrhyw gosbau y credwn eu bod yn ddyledus, gallwch apelio — os byddwch yn apelio yn erbyn y dreth a’r cosbau hefyd, mae gennych yr hawl i ofyn i’r ddwy apêl gael eu hystyried gyda’i gilydd
  • mae gennych hawl i wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir er mwyn delio ag unrhyw apêl yn erbyn cosbau penodol
  • mae gennych hawl i ddisgwyl i ni ddelio â mater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol

Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS9’.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.