Canllawiau

Manylion cwmni ar ddogfennau

Diweddarwyd 4 March 2024

1. Cyflwyno dogfennau papur

Ysgrifennwch enw llawn y cwmni gan gynnwys diweddu’r enw (er enghraifft Cyf, Cyfyngedig, Ltd, Limited, PLC) gyda rhif y cwmni.

Byddwn yn dychwelyd eich dogfen os nad ydych yn cynnwys rhif cywir y cwmni, neu os ydych yn defnyddio enw cwmni gyda thalfyriad nad yw’n cael ei ganiatáu.

Byddwn hefyd yn dychwelyd eich dogfen os oes gan enw’r cwmni wallau sillafu neu amrywiadau.

Byddwn yn derbyn dogfennau sy’n colli’r gair “THE” neu “Y” o enw cwmni, ond dim ond os caiff ei ganfod ar ddechrau’r enw.

2. Talfyriadau derbyniol

Ar gyfer cwmnïau cyhoeddus Ar gyfer PACau Ar gyfer cwmnïau cyfyngedig preifat Ar gyfer Cwmnïau Buddiant Cymunedol (cyfyngedig preifat) Ar gyfer Cwmnïau Buddiant Cymunedol (cyfyngedig cyhoeddus)
Public Limited Company Limited Liability Partnership Limited Community Interest Company Community Interest Public Limited Company
PLC LLP Ltd CIC Community Interest PLC
P.L.C. L.L.P. Ltd. C.I.C. Community Interest P.L.C.
Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig Cyfyngedig Cwmni Buddiant Cymunedol Cwmni Buddiant Cymunedol Cyhoeddus Cyfyngedig
CCC PAC CYF CBC Cwmni Buddiant Cymunedol CCC
C.C.C. P.A.C. CYF. C.B.C. Cwmni Buddiant Cymunedol C.C.C.

3. Llofnodion

Rhaid i chi ddarparu llofnod. Gallwn dderbyn llofnodion sy’n:

  • cael ei gynhyrchu yn ddigidol
  • cael ei deipio’n uniongyrchol i’r ffurflen
  • cael ei sganio ar y ffurflen
  • cael ei ysgrifennu â llaw mewn inc du