Deunydd hyrwyddo

Negeseuon cyfryngau cymdeithasol

Diweddarwyd 4 September 2020

Byddem yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i helpu i rannu’r neges am Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant ar led ar gyfryngau cymdeithasol.

Gallwch wneud hyn mewn dwy ffordd:

  • ehangu ein negeseuon, sydd wedi eu hanelu at rieni a gwarcheidwaid yn bennaf
  • defnyddiwch eich sianeli eich hun i gyrraedd pobl ifanc 15 i 18 oed

Ehangu’n negeseuon

Fel rhan o ymgyrch ehangach ar Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant, byddwn yn postio ystod o negeseuon ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, a fydd yn mynd ymhellach o lawer os bydd rhanddeiliaid a phartneriaid yn eu rhannu a’u hehangu.

Byddwn yn defnyddio’r sianeli cyfryngau cymdeithasol swyddogol hyn gan CThEM:

Defnyddio eich sianeli eich hun

Gallwch ddefnyddio’r templedi negeseuon cyfryngau cymdeithasol hyn, ynghyd â delweddau a ddarperir ar y dudalen hon, ar eich sianeli eich hun i helpu pobl ifanc 15 i 18 oed i ddeall Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant.

Rydym wedi rhannu’r negeseuon yn 2 grŵp eang:

  • negeseuon cyffredinol ar gyfer pob person ifanc 15 i 18 oed
  • negeseuon yn benodol ar gyfer y rhai sydd newydd droi’n 18 oed

Mae delweddau a graffeg wedi’u darparu mewn ystod o fformatau sy’n addas ar gyfer pob sianel cyfryngau cymdeithasol, felly dewiswch y rhai sy’n addas i chi.

Mae’r delweddau’n rhad ac am ddim i’w defnyddio mor aml ag yr hoffech, er y byddem yn gofyn nad ydyn nhw’n cael eu newid.

Defnyddiwch yr hashnod ac ehangwch y sgwrs - #DodOHydiFyCYP #FindMyCTF

Byddwn yn defnyddio’r hashnod #DodOHydiFyCYP #FindMyCTF ar ein holl gynnwys, a byddai’n wych pe gallech chi ei ddefnyddio hefyd, naill ai wrth bostio’ch cynnwys eich hun neu rannu ein cynnwys ni. Byddai hefyd yn ddefnyddiol iawn pe gallech annog eich partneriaid a’ch rhanddeiliaid i’w ddefnyddio hefyd - byddem wrth ein bodd yn gweld y sgwrs yn lledaenu mor bell â phosib.

Negeseuon ar gyfer pobl ifanc 15 i 18 oed

Themâu’r negeseuon yn gyffredinol:

  • fe allai fod arian yn aros amdanat
  • sut i ddod o hyd i’th rif Yswiriant Gwladol
  • cael ID Porth y Llywodraeth

Ffeiliau graffig perthnasol i’w defnyddio (ffeil zip): Delweddau cyfryngau cymdeithasol: Pobl ifanc 15 i 18 mlwydd oed

Fe allai fod arian yn aros amdanat

Delweddau perthnasol i’w defnyddio:

  • Gallai fod gen ti arian mewn cyfrif y gallet fynd ato nawr os wyt yn 18 oed! Os gest ti dy eni rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, dewch o hyd i’ch CYP
  • Mae’n bosibl bod arian annisgwyl yn aros amdanat! Os gest ti dy eni rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, dewch o hyd i’ch CYP

Testun ategol posibl:

  • Rwyt ti’n gallu codi arian o’th gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant pan fyddi di’n troi’n 18 oed. Dewch o hyd i bopeth sydd angen i ti ei wybod… https://www.gov.uk/cronfeydd-ymddiriedolaeth-plant

  • Wyt ti’n troi’n 18 oed rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021? Mae’n bosibl bod arian mewn cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn aros amdanat ti! Bydd angen dy rif Yswiriant Gwladol a chyfrif Porth y Llywodraeth arnat i ddod o hyd i’th Gronfa Ymddiriedolaeth Plant. Dysgwch sut https://www.gov.uk/cronfeydd-ymddiriedolaeth-plant/-dod-o-hyd-i-gronfa-ymddiriedolaeth-plant

  • Wyt ti’n troi’n 18 oed rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021? Mae’n bosibl bod cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn aros amdanat ti! Faint o arian sydd yn dy gyfrif di? Dysgwch sut https://www.gov.uk/cronfeydd-ymddiriedolaeth-plant/-dod-o-hyd-i-gronfa-ymddiriedolaeth-plant

  • Wyt ti’n troi’n 18 oed y mis [month] hwn? Mae’n bosibl bod cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn aros amdanat ti! Faint o arian sydd yn dy gyfrif di? Dysgwch sut https://www.gov.uk/cronfeydd-ymddiriedolaeth-plant/-dod-o-hyd-i-gronfa-ymddiriedolaeth-plant

  • Paid â cholli allan!!! Os wyt ti’n troi’n 18 oed rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021 mae’n bosibl bod arian mewn cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn aros amdanat ti! Dysgwch faint sydd yn dy gyfrif di a sut i gael mynediad ato https://www.gov.uk/cronfeydd-ymddiriedolaeth-plant/-dod-o-hyd-i-gronfa-ymddiriedolaeth-plant

  • Wedi dy eni rhwng 1 Medi 2002 a 31 Awst 2003? Mae pobl eraill yr un oedran â thi’n dysgu bod ganddynt arian mewn Cronfa Ymddiriedolaeth Plant y gallant gael mynediad ato ar eu pen-blwydd yn 18 oed. Dysgwch ragor https://www.gov.uk/cronfeydd-ymddiriedolaeth-plant

  • Wyt ti’n troi’n 16 oed rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021? Mae’n bosibl bod gen ti arian parod mewn cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant a fydd ar gael i ti ar dy ben-blwydd yn 18 oed. Rwyt ti’n gallu dechrau rheoli dy gyfrif nawr fel bod modd cael mynediad at dy arian yn gyflym ac yn hawdd pan fyddi di’n troi’n 18 oed. Dysgwch ragor https://www.gov.uk/cronfeydd-ymddiriedolaeth-plant

Wyt ti’n troi’n 16 oed y mis [month] hwn? Mae’n bosibl bod gen ti arian parod mewn cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant a fydd ar gael i ti ar dy ben-blwydd yn 18 oed. Rwyt ti’n gallu dechrau rheoli dy gyfrif nawr fel bod modd cael mynediad at dy arian yn gyflym ac yn hawdd pan fyddi di’n troi’n 18 oed. Dysgwch ragor https://www.gov.uk/cronfeydd-ymddiriedolaeth-plant

  • Dysgwch ble mae dy gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant https://www.gov.uk/cronfeydd-ymddiriedolaeth-plant/-dod-o-hyd-i-gronfa-ymddiriedolaeth-plant

Sut i ddod o hyd i’th rif Yswiriant Gwladol

Delweddau perthnasol i’w defnyddio:

  • ‘Mae’n hawdd dod o hyd i’th rif Yswiriant Gwladol sydd ar goll.

Testun ategol posibl:

  • Bydd angen dy rif Yswiriant Gwladol arnat i ddod o hyd i’th Gronfa Ymddiriedolaeth Plant. Wedi anghofio neu wedi colli dy rif YG? Dim problem! Rwyt ti’n gallu dod o hyd i’th rif YG yn https://www.gov.uk/government/organisations/hm-revenue-customs/contact/welsh-language-helplines

Cael ID ar gyfer Porth y Llywodraeth

Delweddau perthnasol i’w defnyddio:

  • ‘Mae’n hawdd creu Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth’

Testun ategol posibl:

Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth arnat i ddod o hyd i’th Gronfa Ymddiriedolaeth Plant. Dim un gen ti? Dim problem, mae’n hawdd creu un https://www.access.service.gov.uk/login/signin/creds

Negeseuon ar gyfer pobl ifanc 18 oed - “Nawr dy fod yn 18 oed”

Themâu’r negeseuon yn gyffredinol:

  • mae gen ti fynediad i’th Gronfa Ymddiriedolaeth Plant nawr
  • defnyddio’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant i gynilo neu fuddsoddi yn dy ddyfodol (cynilo ar gyfer car, mynd i’r brifysgol, blaendal am fflat ac ati)

Ffeiliau graffig perthnasol i’w defnyddio (ffeil zip): Delweddau cyfryngau cymdeithasol: Nawr dy fod yn 18 oed (amrywiol)

Testun ategol posibl:

  • Dod o hyd i’th gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant https://www.gov.uk/cronfeydd-ymddiriedolaeth-plant/-dod-o-hyd-i-gronfa-ymddiriedolaeth-plant a dysgu sut i reoli dy arian https://www.moneyadviceservice.org.uk/en/articles/beginners-guide-to-managing-your-money

  • Dod o hyd i’th gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant https://www.gov.uk/cronfeydd-ymddiriedolaeth-plant/-dod-o-hyd-i-gronfa-ymddiriedolaeth-plant a dysgu sut i fuddsoddi dy arian https://www.moneyadviceservice.org.uk/cy/articles/buddsoddi-canllaw-i-ddechreuwyr