Canllawiau

Cronfeydd wrth gefn elusennau: meithrin gwydnwch (CC19)

Dysgwch beth yw cronfeydd wrth gefn elusennau a sut i ddatblygu ac adrodd ynghylch polisi cronfeydd wrth gefn elusen.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Manylion

Gall cronfeydd wrth gefn - yr arian y mae elusen yn ei gadw wrth gefn - gryfhau gwytnwch elusen yn erbyn, er enghraifft, ostyngiadau mewn incwm neu ofynion prosiect newydd.

Mae’n bwysig bod gan elusennau bolisi sy’n egluro eu hymagwedd tuag at gronfeydd wrth gefn. Nid oes un lefel unigol na hyd yn oed ystod o gronfeydd wrth gefn sy’n addas i bob elusen. Dylai unrhyw darged a osodir gan ymddiriedolwyr ar gyfer lefel y cronfeydd wrth gefn sydd i’w cadw, neu benderfyniad nad oes angen cronfeydd wrth gefn, adlewyrchu amgylchiadau penodol yr elusen unigol a chael ei egluro yn y polisi.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio:

  • beth yw’r cronfeydd wrth gefn
  • pwysigrwydd bod â pholisi cronfeydd wrth gefn
  • sut i ddatblygu polisi cronfeydd wrth gefn
  • y gofynion cyfreithiol ar gyfer cyhoeddi’r polisi ac adrodd amdano
  • yr hyn a ddylai ymddiriedolwyr ei wneud i gadw golwg briodol ar gronfeydd wrth gefn eu helusen

Mae Atodiadau 1 a 2 yn rhoi canllaw ymarferol ar greu polisi cronfeydd wrth gefn ar gyfer elusennau bach a mawr.

Cyhoeddwyd ar 29 January 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 June 2023 + show all updates
  1. Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.

  2. First published.