Papur polisi

Gwybodaeth ynghylch newidiadau i’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel

Diweddarwyd 8 March 2024

Fel y cyhoeddwyd yng Nghyllideb 2024, bydd y trothwy ar gyfer y Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel yn cynyddu i £60,000 o 6 Ebrill 2024 ymlaen.

Mae’r tâl wedi’i feinhau mewn ffordd sy’n golygu y gallai fod o fudd ariannol i chi i hawlio, hyd yn oed os ydych chi, neu’ch partner, yn ennill rhwng £60,000 a £80,000.

Er enghraifft, codir tâl 1% o’ch Budd-dal Plant ar bob £200 o incwm sydd dros y trothwy o £60,000. Os yw’ch incwm dros £80,000, bydd y tâl yn hafal i werth y taliad Budd-dal Plant. 

Os nad ydych wedi hawlio Budd-dal Plant hyd yn hyn

Os nad ydych wedi hawlio Budd-dal Plant hyd yn hyn, gallwch hawlio drwy ap CThEF neu ar-lein. Mae Budd-dal Plant yn cael ei ôl-ddyddio am 3 mis, neu i ddyddiad geni’r plentyn os yw’n hwyrach.

Bydd hawliadau newydd am Fudd-dal Plant a wnaed ar neu ar ôl 6 Ebrill 2024, a’r hawliadau a wnaed cyn 8 Gorffennaf 2024, yn golygu y bydd taliadau yn cael eu hôl-ddyddio, ond byddant yn destun i’r tâl ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025 os yw’ch incwm dros y trothwy newydd, sef £60,000.

Er enghraifft, os gwnewch hawliad newydd ar 6 Mai 2024, bydd eich taliad Budd-dal Plant yn cael ei ôl-ddyddio i 6 Chwefror 2024, ond byddwch dim ond yn talu’r tâl ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025 os yw’ch incwm dros £60,000.

Bydd angen i chi, neu’ch partner, gyflwyno a thalu unrhyw dâl ar gyfer 2024 i 2025 drwy Hunanasesiad erbyn 31 Ionawr 2026.

Os ydych eisoes wedi hawlio Budd-dal Plant ac nad ydych yn cael taliadau

Os ydych eisoes wedi hawlio Budd-dal Plant ac nad ydych yn cael taliadau, ond am ddechrau eu cael, gallwch wneud hyn drwy ap CThEF neu ar-lein. Gallwch ddewis pryd i ddechrau’ch taliadau, ond os ydych yn eu dechrau cyn 6 Ebrill, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu’r tâl ar gyfer 2023 i 2024.

Os ydych chi, neu’ch partner, yn talu’r tâl ar hyn o bryd

Os ydych chi, neu’ch partner, yn talu’r tâl drwy Hunanasesiad ar hyn o bryd, bydd angen i chi gyflwyno a thalu’r hyn sydd arnoch erbyn 31 Ionawr 2025.

Gallwch ddefnyddio ap CThEF i wneud y canlynol:

  • dysgu os ydych yn cael Budd-dal Plant ar hyn o bryd
  • gwirio’ch incwm