Hysbysiad

Arolwg Cyflog Prentisiaid 2018 i 2019: Galw am Dystiolaeth

Cyhoeddwyd 8 November 2018

This hysbysiad was withdrawn on

The research has concluded. View the final Apprenticeship Pay Survey 2018 to 2019.

Ymdrech ar y cyd rhwng llywodraethau datganoledig Cymru a’r Alban; ac Adran Addysg ac Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol San Steffan yw Arolwg Cyflog Prentisiaid 2018.

Mae’r Arolwg hwn yn darparu gwybodaeth bwysig am hyfforddiant, oriau a chyflogau prentisiaid cyfredol. Mae’r canlyniadau’n ein helpu i ystyried lefelau cyflogau ledled Prydain, mesur newidiadau o gymharu â blynyddoedd blaenorol a monitro a yw cyflogwyr yn dilyn y rheolau cyflog teg. Bydd yr ymchwil yn helpu i bennu polisi cyflogau a chyflwyno gwelliannau i hyfforddiant prentisiaid.

Cwmni ymchwil annibynnol IFF Research fydd yn gwneud y gwaith ymchwil ar ein rhan.

Bydd prentisiaid dethol yn derbyn llythyr yn esbonio pwrpas yr ymchwil a phwy i gysylltu â nhw os oes ganddynt unrhyw gwestiynau pellach. Byddan nhw’n cael eu holi dros y ffôn. Bydd tua 10,000 o brentisiaid yn cymryd rhan yn yr holiadur ffôn sy’n cynnwys cwestiynau am:

  • faint o oriau maen nhw’n ei dreulio’n gweithio i’w cyflogwyr, mewn wythnos arferol
  • faint o oriau ychwanegol maen nhw’n treulio’n dysgu a hyfforddi ar ben eu gwaith arferol. Gallai hyn gynnwys mynd i’r coleg, dilyn cyrsiau, gweithdai neu sesiynau hyfforddi yn y gweithle neu’n allanol, dysgu yn y cartref, dysgu o lyfrau gwaith, amser gyda’u haseswyr ac amser yn llenwi portffolio
  • faint o arian maen nhw’n ei ennill – yn ddelfrydol, y swm yn nhermau gros cyn unrhyw dreth, yswiriant gwladol a didyniadau eraill

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn yr arolwg yn ateb cwestiynau ychwanegol fel a ganlyn hefyd:

  • eu cymhelliant dros ddilyn prentisiaeth
  • natur yr hyfforddiant
  • pa mor fodlon maen nhw gyda’r hyfforddiant a gawsant
  • effaith y brentisiaeth ar eu gyrfaoedd a’u cynlluniau at y dyfodol

Ni fydd canlyniadau’r arolwg yn nodi unrhyw unigolyn, ac ni fyddwn yn defnyddio’r ymchwil i dargedu prentisiaid neu gyflogwyr penodol ar gyfer gweithgareddau gorfodi.

Does dim rhaid i brentisiaid gymryd rhan, ond byddem yn ddiolchgar pe bai cymaint ag sy’n bosib yn cyfrannu at yr ymchwil pwysig hwn.