Paul Maynard MP
Bywgraffiad
Penodwyd Paul Maynard yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 13 Tachwedd 2023.
Bu’n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Drafnidiaeth rhwng Gorffennaf 2019 a Chwefror 2020.
Bu hefyd yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder rhwng Mai 2019 a Gorffennaf 2019.
Cyn hynny roedd yn Chwip y Llywodraeth (Arglwydd Gomisiynydd Trysorlys EF). Roedd Paul yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Drafnidiaeth rhwng Gorffennaf 2016 ac Ionawr 2018. Cafodd ei ethol yn AS Ceidwadol dros Blackpool North a Cleveleys ym mis Mai 2010.
Addysg
Addysgwyd Paul yng Ngholeg St Ambrose, Altrincham a Choleg y Brifysgol, Rhydychen lle bu’n astudio hanes.
Gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth
Cyn mynd i’r Senedd, gweithiodd Paul fel ymgynghorydd gwleidyddol ac ysgrifennwr areithiau.
Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol (Gweinidog Pensiynau)
Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys:
- budd-daliadau pensiynwyr, gan gynnwys Pensiwn Newydd y Wladwriaeth, Taliadau Tanwydd Gaeaf, Credyd Pensiwn a Lwfans Gweini
- pensiynau preifat a galwedigaethol, gan gynnwys pwerau rheoleiddio a’r Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Cenedlaethol (NEST)
- Cronfa Gymdeithasol (Taliadau Tywydd Oer, Grantiau Mamolaeth Cychwyn Cadarn a Chynllun Talu Treuliau Angladdau)
- goruchwyliaeth o gyrff hyd braich, gan gynnwys y Rheoleiddiwr Pensiynau, Cronfa Diogelu Pensiwn, Cynllun Cymorth Ariannol ac Ombwdsmon Pensiynau, a’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear
- dulliau talu, gan gynnwys Cyfrif Cerdyn Swyddfa’r Post
- Sero Net
- Gweinidog yr Arglwyddi Cysgodol
- Twyll, gwall a dyled