Amdanom ni

Ni yw’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rydym yn cadw dros 50 miliwn o gofnodion gyrwyr a thros 40 miliwn o gofnodion cerbydau. Rydym yn casglu dros £7 biliwn o dreth cerbyd (VED) bob blwyddyn.


Rydym yn cynnal y cofrestru a’r trwyddedu o yrwyr ym Mhrydain Fawr. Rydym hefyd yn cynnal cofrestru a thrwyddedu cerbydau ynghyd â chasglu a gorfodi VED yn y DU.

Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i gael y bobl gywir ar y ffyrdd a’r cerbydau cywir wedi’u trethu yn y modd mwyaf syml, diogel ac effeithlon i’r cyhoedd â phosib.

Cyfrifoldebau

Rydym yn gyfrifol am:

  • gofnodi arnodiadau, gwaharddiadau a chyflyrau meddygol
  • cyhoeddi trwyddedau gyrru cerdyn-llun
  • cyhoeddi tystysgrifau cofrestru cerbydau i geidwaid cerbydau
  • cymryd camau gorfodi yn erbyn pobl sy’n osgoi talu treth cerbyd
  • cofrestru a chyhoeddi cardiau tacograff
  • gwerthu cofrestriadau personol DVLA
  • helpu’r heddlu ac awdurdodau cudd-ymchwil i fynd i’r afael â throseddau
  • darparu data dienw i’r rhai sydd â hawl i ddefnyddio’r gwasanaeth

Blaenoriaethau

O 2021 tan 2024 ein blaenoriaethau, sy’n cysoni â’n Cynllun Strategol 2021 i 2024, bydd i ganolbwyntio ar fod:

  • yn gwsmer canolog - byddwn yn datblygu ein gwasanaethau o gwmpas helpu ateb anghenion cwsmeriaid, yn unigolion, busnesau neu sefydliadau sector cyhoeddus eraill
  • yn sefydliad dynamig, digidol - byddwn yn parhau i gyflymu ailgynllunio ac ail-lwyfanu ein gwasanaethau, gan adeiladu ar sylfeini’r hyn rydym wedi’i ddarparu’n barod a bod yn uchelgeisiol am y dyfodol
  • wedi’n gyrru gan ddata - ein blaenoriaeth yw a bydd dal i ddiogelu’r data sydd gennym bob amser. Bydd ein gwasanaethau yn ddiogel trwy gynllun a bydd ein diwylliant yn sicrhau bod ein cyfrifoldeb i ddiogelu data, yn enwedig data personol, wrth wraidd y sefydliad
  • yn lle gwych i weithio - rydym am i DVLA fod yn lle gwych a chynhwysol i weithio, yn buddsoddi yn sgiliau ein cymuned leol ac yn cynnig swyddi o ansawdd da, sy’n rhoi boddhad i’r bobl dalentog sy’n dymuno gweithio yma

Pwy yr ydym ni

Rydym yn asiantaeth weithredol o’r Adran Drafnidiaeth (DfT) gyda safleoedd yn Abertawe a Birmingham, yn cyflogi mwy na 6,000 o bobl.

Rydym yn sefydliad digidol yn gyntaf ac mae’r mwyafrif helaeth o’n nifer o wasanaethau ar gael ar-lein fel y gall cwsmeriaid ddewis sut, pryd a ble yr ydynt yn cyrchu ein gwasanaethau.

Gwybodaeth gorfforaethol

Cael mynediad at ein gwybodaeth

Swyddi a chontractau

Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Cynllun cyhoeddi. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar Defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol. Dysgu Am ein gwasanaethau.