Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn Ymweld ag UDA i Hybu Masnach a Buddsoddiad

Mae taith Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, yn cynnwys cwrdd â chynrychiolwyr busnes, ffigyrau gwleidyddol ac ymweld â gorsaf bŵer niwclear.

Image of United States flag

Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, yn teithio i’r Unol Daleithiau yr wythnos hon (5-9 Ebrill) i hybu masnach a buddsoddiad yng Nghymru.

Gydag allforion o Gymru i’r Unol Daleithiau yn werth bron i £1.8bn y flwyddyn, mae cysylltiadau economaidd sylweddol yn bodoli rhwng y ddwy wlad ac mae potensial enfawr i fusnesau Cymru elw ohonynt yn y dyfodol.

Ar ôl codi’r cyfyngiadau ym mis Ionawr ar fewnforio cig oen o Brydain i farchnad yr Unol Daleithiau ar ôl mwy na dau ddegawd, bydd Mr Hart yn cwrdd â swyddogion o Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau a’r Cyngor Mewnforio Cig i drafod cyfraniad allforwyr o Gymru ar ôl ailgydio mewn masnachu cig oen. Mae’r buddsoddiad posibl mewn ynni niwclear yng Nghymru hefyd yn ganolog i daith Ysgrifennydd Cymru, ac mae trafodaethau ar y gweill gyda ffigyrau allweddol yn y sector.

Mae rhaglen Mr Hart yn cynnwys:

  • Cwrdd â chynrychiolwyr busnes allweddol – gan gynnwys o’r sectorau gweithgynhyrchu ac ynni.
  • Cynnal trafodaethau gyda ffigyrau gwleidyddol yr Unol Daleithiau.
  • Ymweld â Plant Vogtle, Georgia i weld adweithydd AP-1000 Westinghouse yn cael ei adeiladu a chwrdd ag uwch gynrychiolwyr o Westinghouse, Southern Nuclear a’r cwmni peirianneg Bechtel.

Wrth siarad cyn ei ymweliad, dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru:

Yng nghysgod ymosodiad Rwsiad ar Wcráin, ni fu’r berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau erioed mor bwysig.

Mae cysylltiadau economaidd a diwylliannol cryf a phwysig rhwng Cymru a’n ffrindiau yn America ac mae’n wych gallu hyrwyddo’r rhain a helpu i’w cryfhau ymhellach.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweld datblygiadau sylweddol yn ein perthynas sydd wedi bod yn eithriadol o fuddiol i Gymru, o godi tariffau dur i’r cyfleoedd allforio newydd i gig oen o Gymru.

Rydw i eisiau adeiladu ar y cynnydd hwn a byddaf yn trafod rhagor o gyfleoedd i fuddsoddi yng Nghymru gydag ynni niwclear wrth galon y trafodaethau hynny.

Mae taith Ysgrifennydd Cymru hefyd yn cynnwys:

  • Siarad ag Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau a’r Cyngor Mewnforio Cig am fewnforion cig oen o Gymru i’r Unol Daleithiau yn y dyfodol.
  • Digwyddiad gyda Chymdeithas Fusnes Prydain-America i hyrwyddo Cymru.
  • Cwrdd â ffigyrau uchel o gwmni ynni Valero – sydd eisoes yn fuddsoddwr mawr yng Nghymru.
  • Sgyrsiau gyda gwleidyddion o Gawcws Cyfeillion Cymru yng Nghyngres yr Unol Daleithiau.

Mae Mr Hart yn teithio i Washington DC ddydd Mawrth, 5 Ebrill ac yna ymlaen i Georgia ddydd Iau 7 Ebrill gyda’i ymweliad wedi’i gefnogi gan Lysgenhadaeth Prydain, rhan o rwydwaith diplomyddol byd-eang helaeth y DU.

Cyhoeddwyd ar 5 April 2022