Datganiad i'r wasg

Asiantaeth Ofod y DU yn cyhoeddi agor swyddfa newydd yng Nghymru

Mae Asiantaeth Ofod y DU yn agor ei swyddfa gyntaf yng Nghymru.

Tŷ William Morgan House, Cardiff

Mae Asiantaeth Ofod y DU yn agor ei swyddfa gyntaf yng Nghymru er mwyn gweithio i gefnogi’r sector gofod ledled y DU. 

Yn unol â strategaeth Codi’r Gwastad y llywodraeth, bydd yr Asiantaeth yn ehangu er mwyn cydweithio’n agosach â sector gofod ffyniannus y DU, gan hyrwyddo sgiliau a chyfleoedd gwaith yn rhanbarthol i gyflawni ymgyrchoedd a galluoedd uchelgeisiol. 

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod sector gofod Cymru yn cynhyrchu £79 miliwn o incwm y flwyddyn ac yn cyflogi dros 600 o bobl.   

Mae’r swyddfa newydd yn Nhŷ William Morgan, Caerdydd yn rhan o’r newidiadau niferus i Asiantaeth Ofod y DU. Bydd swyddfeydd newydd hefyd yn agor yng Nghaeredin a Chaerlŷr a phencadlys newydd yng Nghlwstwr Gofod Harwell yn Swydd Rhydychen. 

Dywedodd Dr Paul Bate, Prif Weithredwr Asiantaeth Ofod y DU:

Mae hon yn foment drawsnewidiol i Asiantaeth Ofod y DU wrth ymateb yn uniongyrchol i’r adborth y dylai’r Asiantaeth gael ei gwreiddio yn y sector. Bydd ein pencadlys newydd, yng nghlwstwr gofod mwyaf y DU yn Harwell, yn cysylltu â swyddfeydd rhanbarthol yng Nghaerdydd, Caeredin a Chaerlŷr. Bydd hyn yn ein helpu i recriwtio talent gofod o bob cwr o’r DU a chyflawni’r Strategaeth Gofod Genedlaethol.  

Mae gan Gymru hanes hir ym maes awyrofod a gweithgynhyrchu, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi cefnogi cwmnïau gofod yng Nghymru i ddatblygu technolegau newydd ac arloesol, gan gynnwys Space Forge a adeiladodd lloeren gyntaf Cymru.    

Rydyn ni wedi gweld cynnydd sylweddol mewn sefydliadau gofod ar draws ecosystem gofod Cymru ac mae’n hanfodol ein bod yn meithrin eu sgiliau a’u harbenigedd, ac yn eu cysylltu â’r sector ehangach, i sicrhau ein bod yn parhau â’r daith hon.

Mae Asiantaeth Ofod y DU yn cefnogi Gofod Cymru i adeiladu Clwstwr Gofod Cymru ac i’r perwyl hwnnw penodwyd Rheolwr Datblygu Clwstwr Cymru yn ddiweddar. 

Y llynedd, rhoddwyd hwb i gyfleusterau ymchwil, gweithgynhyrchu a phrofi yng Nghymru yn y maes gofod diolch i gyllid gan Asiantaeth Ofod y DU. 

Derbyniodd Space Forge yng Nghaerdydd bron i £8 miliwn ar gyfer Canolfan Ymchwil Microddisgyrchiant Genedlaethol, er mwyn ymchwilio i ddeunyddiau datblygedig a’u cynhyrchu. Derbyniodd Snowdonia LLP £800,000 i ddatblygu Canolfan Profi Technoleg y Gofod (STTC) yng Nghanolfan Gofod Eryri, Llanbedr, Gwynedd, mewn partneriaeth â Newton Launch Systems Ltd. Hefyd, derbyniodd tîm, dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, £10.7 miliwn o gyllid gan Asiantaeth Ofod y DU i greu darn newydd o offer yn lle cydran a gynhyrchwyd yn Rwsia ar gerbyd Rosalind Franklin, gyda’r nod o lansio i blaned Mawrth yn 2028.  

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwy’n falch iawn bod Asiantaeth Ofod y DU yn agor swyddfa yng Nghaerdydd i gefnogi’r sector gofod sy’n tyfu’n gyflym yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU wedi buddsoddi’n sylweddol mewn cwmnïau fel Space Forge yng Nghaerdydd ac mewn rhaglenni ymchwil ym mhrifysgolion Cymru. Rydyn ni wedi meithrin talent ac arbenigedd ac mae’n wych gweld cefnogaeth yng Nghymru i helpu’r sector i dyfu a datblygu.

Dywedodd John Whalley, Prif Weithredwr Gofod Cymru:

Mae agor swyddfa Asiantaeth Ofod y DU yng Nghaerdydd yn gyfle trawsnewidiol i’r sector gofod yng Nghymru. Gyda dros 85 o sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r gofod wedi’u lleoli ledled y wlad, mae hyn nid yn unig yn gyfle i ategu ein llwyddiannau ond hefyd i sbarduno rhagor o bartneriaethau gydag Asiantaeth Ofod y DU i lansio sector gofod Cymru i uchelfannau newydd.

Bydd strwythur newydd Asiantaeth Ofod y DU yn creu cyfleoedd sylweddol i adeiladu ar feysydd twf uchel, fel arsylwi’r Ddaear a band eang lloeren. Bydd hefyd yn helpu’r DU i fod yn geffyl blaen mewn marchnadoedd newydd fel gwasanaethu llongau gofod mewn-orbit, gwaredu malurion gofod, a’r economi lloerol newydd, a fydd yn ein helpu i greu sector gwyrddach, clyfrach a mwy cynhwysol. 

Fel y nodir yng Nghynllun Diwydiannol y Gofod, mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i barhau â’i chefnogaeth i glystyrau gofod ledled y DU a darparu’r offer angenrheidiol i annog cydweithio rhyngddynt ac i ysgogi buddsoddiad pellach.

Bydd yr Asiantaeth yn cadw ei swyddfeydd yn Llundain a Swindon o hyd.

Cyhoeddwyd ar 2 April 2024