Stori newyddion

£36 miliwn o arian Llywodraeth y Deyrnas Unedig i Abertawe ar gyfer ei datblygiadau technoleg ynni glân

Mae Canghellor y Deyrnas Unedig, Philip Hammond, wedi cyhoeddi cyllid newydd o £36 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer arloesi ynni glân yn y sector adeiladu drwy Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol.

  • Mae Canghellor y Deyrnas Unedig, Philip Hammond, wedi cyhoeddi cyllid newydd o £36 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer arloesi ynni glân yn y sector adeiladu drwy Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol.
  • Bydd yr arian yn mynd i sefydliad ymchwil SPECIFIC, sy’n rhan o Brifysgol Abertawe, ac sy’n datblygu deunyddiau a gorchuddion adeiladu newydd sy’n cynhyrchu trydan o oleuni a gwres.
  • Gellir defnyddio’r ynni hwn i bweru cartrefi, ysbytai ac ysgolion, neu ei werthu yn ôl i’r grid cenedlaethol.
  • Mae cyfanswm y cyllid y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ei roi i Brifysgol Abertawe ers 2010 yn fwy na £100 miliwn

Bydd mwy na £36 miliwn o arian Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei roi i Brifysgol Abertawe i ddatblygu deunyddiau adeiladu blaengar sy’n cynhyrchu trydan, cyhoeddodd y Canghellor yn ystod ymweliad â Chymru gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.

Mae’r dechnoleg werdd yn defnyddio golau a gwres i gynhyrchu ynni, ac mae ganddi’r potensial i bweru cartrefi, gweithleoedd, ysgolion ac ysbytai. Gallai’r deunyddiau hyn gymryd lle waliau, toeau a ffenestri confensiynol, gan gynhyrchu trydan sy’n cael ei storio a’i ryddhau gan system weithredu glyfar. Gellid gwerthu trydan dros ben yn ôl i’r grid cenedlaethol hefyd.

Mae cyhoeddiad heddiw yn ategu bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fwy na haneru defnydd ynni adeiladau newydd erbyn 2030: bydd gwneud adeiladau’n fwy effeithlon o ran ynni drwy gynnwys technolegau clyfar yn torri biliau ynni’r cartref, yn lleihau’r galw am ynni, ac yn rhoi hwb i dwf economaidd y Deyrnas Unedig tra’n cyrraedd targedau o ran lleihau carbon.

Wrth ymweld ag Ysgol Beirianneg Prifysgol Abertawe, dywedodd Canghellor y Trysorlys, Philip Hammond:

Mae Prifysgol Abertawe a’r cwmnïau arloesol sy’n gweithio gyda hi’n arweinwyr byd-eang mewn ynni glân. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi diwydiannau’r dyfodol a fydd yn darparu swyddi a chyfleoedd ledled Cymru. Bydd y £36 miliwn hwn o arian newydd yn cefnogi technoleg werdd gyffrous a allai dorri biliau ynni, lleihau allyriadau carbon a chreu cartrefi a mannau gwaith gwell.

Bu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, a wnaeth agor y Swyddfa Weithredol ar Gampws Bae Abertawe yn gynharach eleni ymuno â’r Canghellor ar yr ymweliad.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn gefnogwr balch o brosiect SPECIFIC ers tro, a’r llynedd rhoddodd £800,000 o gyllid tuag ato drwy Innovate UK

Ers 2010, mae Prifysgol Abertawe wedi cael dros £68 miliwn o gyllid ymchwil gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd y £36 miliwn o arian ychwanegol yn golygu bod y cyfanswm mae’r Brifysgol wedi’i gael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig dros y cyfnod hwnnw yn pasio £100 miliwn.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i arwain y byd o ran technoleg ynni glân, ac mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn ym Mhrifysgol Abertawe yn dangos ein bod ni’n barod i gefnogi arloesi yn y maes hollbwysig hwn.

Mae’r ymchwil arloesol sy’n cael ei ddatblygu yn y sefydliad hwn yn trosi i ddyfeisiadau a thechnegau ymarferol a all wella ein bywydau. Mae’n wyddoniaeth gyda phwrpas o ddifrif.

Bydd y cyhoeddiad cyllido heddiw, ar ben yr ymrwymiad o £68 miliwn i Brifysgol Abertawe er 2010, yn sicrhau y bydd Cymru ac un o’i phrifysgolion mwyaf blaengar yn chwarae rhan allweddol wrth gadw’r Deyrnas Unedig ar flaen y gad o ran arloesi am flynyddoedd i ddod.

Mae’r cyllid newydd hwn yn rhan o’r cynnydd mwyaf mewn buddsoddiad ymchwil a datblygu ers 40 mlynedd, gan gefnogi swyddi cyflogau uchel mewn diwydiannau sy’n dod i’r amlwg. Ers hydref 2016, mae’r Llywodraeth wedi buddsoddi £7 biliwn yn ychwanegol mewn ymchwil a datblygu - gan ddangos cynnydd clir tuag at yr uchelgais i gynyddu buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu ar draws holl economi’r Deyrnas Unedig i 2.4% o Gynnyrch Domestig Gros erbyn 2027.

Mae parhau i fod ar flaen y gad o ran ynni glân y genhedlaeth nesaf yn rhan allweddol o Strategaeth Ddiwydiannol fodern y llywodraeth, gan chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynyddu ein hincwm cenedlaethol a thorri allyriadau nwyon tŷ gwydr yr un pryd. Bydd gwneud y mwyaf o fanteision i ddiwydiant y Deyrnas Unedig mewn twf glân yn cynyddu ein cynhyrchedd, yn creu swyddi da, ac yn helpu i ddiogelu’r hinsawdd a’r amgylchedd y byddwn ni a chenedlaethau’r dyfodol yn dibynnu arnynt.

Ar yr un pryd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau â’i chefnogaeth ehangach i Gymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • O ganlyniad i gyhoeddiad diweddar y GIG, disgwylir i Lywodraeth Cymru elwa ar hwb o £1.2 biliwn y flwyddyn i’w chyllideb erbyn 2023/24.
  • Rhoddwyd hwb o £1.2 miliwn i gyllideb Llywodraeth Cymru yng Nghyllideb yr Hydref 2017.
  • Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn buddsoddi £615 miliwn ym Margeinion Dinesig Caerdydd ac Abertawe, ac yn gwneud cynnydd ar fargeinion twf gogledd Cymru a chanolbarth Cymru.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cael £23.5 miliwn o gyllid ychwanegol o ganlyniad i benderfyniad yr Adran Addysg i gynyddu cyflog athrawon yng Nghymru a Lloegr.
  • Mae nifer y bobl sy’n gweithio yng Nghymru ar y lefel uchaf erioed, a thwf cynhyrchiant yng Nghymru yw’r 3ydd cryfaf o blith pob un o 12 gwlad a rhanbarth y Deyrnas Unedig.
Cyhoeddwyd ar 19 September 2018