Datganiad i'r wasg

Datganiad wedi'i ryddhau ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot

Cafwyd pedwerydd cyfarfod Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 27 Mawrth 2024.

Tata Steel rolling mill

Cafwyd pedwerydd cyfarfod Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 27 Mawrth 2024. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf gan Tata Steel UK am eu prosiect datgarboneiddio, gan gynnwys cau’r poptai golosg ym Mhort Talbot a’u cynnig diswyddo gwirfoddol. Mae’r Bwrdd yn cydnabod y brys y mae angen i ni weithio arno.

Trafododd y Bwrdd y strwythur a’r adnoddau i gefnogi’r Bwrdd Pontio, gyda gweithgorau’n cael eu creu i ganolbwyntio ar newid gyrfaoedd a sgiliau, y gadwyn gyflenwi, cysylltiadau cymunedol a llesiant, a chyfathrebu. Rhoddwyd sylw hefyd i’r broses o gael gafael ar y £100 miliwn o gyllid ar gyfer ymyriadau’r Bwrdd Pontio.

Mae’r ymgynghoriad statudol ar y prosiect datgarboneiddio yn parhau, felly bydd y Bwrdd yn cwrdd eto tua diwedd mis Ebrill i gael trafodaeth fwy sylweddol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cyflwyno Cynllun Gweithredu Economaidd Lleol arfaethedig.

Cadeiriwyd cyfarfod y Bwrdd Pontio gan y Gwir Anrhydeddus David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Roedd Vaughan Gething AS, Prif Weinidog Cymru yn bresennol a throsglwyddwyd rôl y dirprwy gadeirydd i Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg. Roedd Felicity Buchan AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn bresennol yn lle’r dirprwy gadeirydd arall, y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro. Hefyd, yn bresennol roedd Alun Mak AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar y cyd yn yr Adran Busnes a Masnach a Swyddfa’r Cabinet. Roedd aelodau eraill y Bwrdd a oedd yn bresennol yn cynnwys Henrik Adam, Cadeirydd Tata Steel UK; Rajesh Nair, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK; y Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot; a David Rees, yr AS dros Aberafan. Roedd Andrew Thomas, Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes yn bresennol yn lle Karen Jones, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Mynychwyd Susanne Renkes, Cynghorydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, yn lle Stephen Kinnock, AS Aberafan. Mynychwyd y Bwrdd gan ei aelodau annibynnol, Katherine Bennett CBE, Anne Jessopp CBE a Sarah Williams-Gardner. Roedd cynrychiolwyr o’r undebau llafur hefyd yn bresennol.

Datganiad gan Gadeirydd Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies:

Mae’n hanfodol bod popeth yn cael ei wneud i gefnogi gweithwyr sydd wedi’u heffeithio gan benderfyniad Tata i symud i gynhyrchu dur mwy gwyrdd.

Y Bwrdd Pontio rwy’n ei gadeirio sy’n cyflawni’r gwaith hwn a bydd £100 miliwn yn cael ei fuddsoddi’n uniongyrchol mewn sgiliau, hyfforddiant a chreu swyddi cyn gynted ag y bydd canlyniad yr ymgynghoriad parhaus rhwng Tata a’i weithlu yn hysbys a’i bod yn amlwg pa weithwyr sy’n cael eu heffeithio.

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi un o’r pecynnau cymorth mwyaf erioed yn ei le, gyda grant o £500 miliwn fel rhan o ymrwymiad £1.25 biliwn gan Tata i sicrhau dyfodol diwydiant dur Cymru.

Mae’r fargen uchaf erioed yn dangos cymaint y mae Llywodraeth y DU yn gwerthfawrogi diwydiant dur Cymru a’r bobl y mae eu bywoliaeth yn dibynnu arno. Hebddo, byddai miloedd yn fwy o swyddi wedi’u colli ym Mhort Talbot ac yn y gadwyn gyflenwi ehangach.

-DIWEDD-

NODIADAU I OLYGYDDION

Ym mis Medi, cyhoeddodd Tata Steel gynigion i fuddsoddi £1.25 biliwn, gan gynnwys grant gan Lywodraeth y DU sy’n werth hyd at £500 miliwn, at y gwaith o gynhyrchu dur mwy gwyrdd ym Mhort Talbot. Ym mis Hydref 2023, sefydlwyd Bwrdd Pontio i gefnogi’r bobl, y busnesau a’r cymunedau yr effeithir arnynt gan y symudiad tuag at waith dur CO2 isel.

Bydd gan y Bwrdd Pontio mynediad at hyd at £100 miliwn i’w fuddsoddi mewn rhaglenni sgiliau ac adfywio ar gyfer yr ardal leol. Bydd yn canolbwyntio ar y canlynol: 

  • Cymorth ar unwaith i’r bobl, y busnesau a’r cymunedau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y symudiad tuag at waith dur CO₂ isel ym Mhort Talbot; a 

  • Cynllun ar gyfer adfywio a thwf economaidd lleol ar gyfer y degawd nesaf. 

Nid yw’r Bwrdd Pontio yn goruchwylio’r buddsoddiad o £1.25bn i symud tuag at y gwaith dur CO₂ isel yn Tata Steel UK. Mater i’r cwmni yw goruchwylio hyn gyda’r Adran Busnes a Masnach, Llywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd ar 27 March 2024