Datganiad i'r wasg

Cynllun ad-dalu toll Gogledd Iwerddon yn cael ei lansio

Yn sgil lansiad heddiw gan CThEF o’r Cynllun Ad-dalu Toll, gall masnachwyr nawr adennill toll ar nwyddau sy’n symud i Ogledd Iwerddon ac nad ydynt wedyn yn symud i’r UE.

O 30 Mehefin 2023, mae’r cynllun yn caniatáu i fasnachwyr sy’n symud nwyddau i Ogledd Iwerddon adennill toll yr UE os gallant ddangos bod y nwyddau wedi’u gwerthu neu eu defnyddio yng Ngogledd Iwerddon neu rywle arall y tu allan i’r UE.

Mae hyn yn cyflawni elfen bwysig o Fframwaith Windsor, gan sicrhau y gellir adennill toll ar nwyddau sy’n symud o fewn y DU ac yn aros ynddi, neu sy’n mynd i rywle heblaw’r UE.

Meddai’r Ysgrifennydd Ariannol i’r Trysorlys, Victoria Atkins, AS:

Rwy’n gwybod bod masnachwyr wedi bod yn aros yn eiddgar am lansiad y cynllun hwn ac rwy’n falch ei fod bellach yn fyw.

Mae hyn yn bodloni cais allweddol a gafwyd gan sawl busnes rydym wedi siarad â nhw ac rydyn ni wedi gweithio’n galed i’w gyflwyno cyn gynted â phosibl yn dilyn y cytundeb ar Fframwaith Windsor.

Bydd masnachwyr yn gallu defnyddio’r cynllun hwn ar gyfer toll yr UE a dalwyd ar nwyddau “mewn perygl” a symudwyd i Ogledd Iwerddon ers Ionawr 2021 trwy gyflwyno ffurflen ddigidol ynghyd â dogfennau a thystiolaeth ategol trwy GOV.UK. Bydd hefyd ar gael ar gyfer nwyddau a fydd yn cael eu symud yn y Lôn Goch o fis Hydref 2024.

Gallai’r cynllun fod o fudd i fusnesau yn y sectorau gweithgynhyrchu a chyfanwerthu yn arbennig, os oes ganddynt dystiolaeth na chafodd nwyddau a symudwyd i Ogledd Iwerddon eu gwerthu i’r UE na’u defnyddio yno yn y pen draw. Gall masnachwyr ddysgu sut i hawlio drwy fwrw golwg dros y canllawiau ar GOV.UK.

Cyhoeddwyd ar 30 June 2023