News story

Mae DBS yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Diogelu yng Nghymru

Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelu yng Nghymru, mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn darparu ei arbenigedd i gefnogi sefydliadau i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel.

Mae’r fenter ymwybyddiaeth flynyddol yn gweithio tuag at wella dealltwriaeth o ddiogelu oedolion a phlant ar y cyd trwy amlygu arfer gorau a rhannu adnoddau.

Mae Tîm Allgymorth Rhanbarthol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cefnogi partneriaid ledled Cymru, megis Blynyddoedd Cynnar Cymru, drwy ddarparu gweithdai a gweminarau llawn gwybodaeth i gyflogwyr, arweinwyr diogelu a recriwtio.

Mae’r sesiynau rhyngweithiol yn canolbwyntio ar gefnogi sefydliadau i ddeall pa lefel o wiriad DBS y gellir gwneud cais amdani a pha wybodaeth y bydd y gwiriadau hyn yn ei darparu. Yn ogystal – lle mae rhywun yn peri risg o niwed i blant neu oedolion agored i niwed – maent yn cefnogi sefydliadau i ddeall y pŵer neu’r ddyletswydd gyfreithiol i wneud atgyfeiriad i’r DBS.

Ynghyd â’r gweithdai sy’n cael eu cyflwyno yn ystod yr Wythnos Ddiogelu, gall eich Cynghorydd Allgymorth Rhanbarthol hefyd gefnogi gyda:

  • ateb ymholiadau’n ymwneud â’r DBS a darparu cyngor dros y ffôn/e-bost
  • mynychu cyfarfodydd, hyfforddiant a chynadleddau, neu ymweld â’ch sefydliad i gael trafodaeth wyneb yn wyneb
  • helpu sefydliadau/rhwydweithiau i ddeall pa lefel o wiriad DBS y gellir gwneud cais amdani, a pha wybodaeth y bydd y gwiriadau hyn yn ei darparu

Mae’r Tîm Allgymorth Rhanbarthol yn gweithio gyda sefydliadau a’r gymuned ddiogelu i rannu arfer gorau, arbenigedd a gwybodaeth am effaith y DBS wrth wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel.

Gallwch ddysgu rhagor am y Tîm Allgymorth Rhanbarthol a’i waith gyda sefydliadau allanol ar draws y gymuned ddiogelu; ewch i: www.gov.uk/guidance/the-dbs-regional-outreach-service .

Published 17 November 2023