Datganiad i'r wasg

Datganiad ar y Cyd o Drydydd Cyfarfod y Bwrdd Pontio

Cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot am y trydydd tro ddydd Iau 1 Chwefror 2024 ar safle’r cwmni ym Mhort Talbot.

A Tata Steel Coke Oven

Cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot am y trydydd tro ddydd Iau 1 Chwefror 2024 ar safle’r cwmni ym Mhort Talbot. 

Cafodd y Bwrdd gyfle i siarad â swyddogion gweithredol Tata Steel am eu cynlluniau ar gyfer datgarboneiddio, a sut byddent yn cefnogi’r gweithwyr, y cymunedau a’r busnesau hynny yr effeithir arnynt. Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf gan yr is-grwpiau am eu cynlluniau a’u blaenoriaethau dros y misoedd nesaf. Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau i ddatblygu Cynllun Gweithredu Economaidd Lleol i lywio a chynghori ymyriadau’r Bwrdd Pontio yn y dyfodol. 

Bydd gan y Bwrdd Pontio mynediad at hyd at £100 miliwn o gyllid (£80 miliwn gan lywodraeth y DU ac £20 miliwn gan Tata Steel) i fuddsoddi mewn rhaglenni sgiliau ac adfywio ar gyfer yr ardal leol, unwaith y bydd canlyniad ymgynghoriad ffurfiol yn hysbys. Bydd y Bwrdd a’r cyllid cysylltiedig yn canolbwyntio ar y canlynol:  

  • Cymorth ar unwaith i’r bobl, y busnesau a’r cymunedau yr effeithir arnynt gan y pontio arfaethedig i waith dur CO₂ isel ym Mhort Talbot; a  
  • Cynllun ar gyfer adfywio a thwf economaidd lleol ar gyfer y degawd nesaf.  

David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru sy’n cadeirio’r Bwrdd Pontio, gyda Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi yng Nghymru, a Michael Gove, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, yn ddirprwy gadeiryddion. Mae aelodau’r Bwrdd yn cynnwys Nusrat Ghani, Gweinidog Gwladol yn yr Adran Fusnes a Masnach; T. V. Narendran, Prif Swyddog Gweithredol Byd-eang a Rheolwr Gyfarwyddwr Tata Steel; Henrik Adam, Cadeirydd Tata Steel UK; Rajesh Nair, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK; y Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Stephen Kinnock, Aelod Seneddol Aberafan; a David Rees, Aelod o’r Senedd dros Aberafan. Mae’r bwrdd yn cynnwys aelodau busnes annibynnol, Anne Jessopp CBE (Cadeirydd yr Is-grŵp Pobl, Sgiliau a Busnes), Sarah Williams-Gardener (Cadeirydd yr Is-grŵp Lle ac Adfywio) a Katherine Bennett CBE. Mynychodd cynrychiolwyr o’r undebau llafur.

Bydd cyfarfod nesaf y Bwrdd Pontio yn cael ei gynnal ym mis Mawrth. 

-DIWEDD-

NODIADAU I OLYGYDDION

Ym mis Medi 2023, cyhoeddodd Tata Steel gynigion i fuddsoddi £1.25 biliwn, gan gynnwys grant gan Lywodraeth y DU gwerth hyd at £500 miliwn, i alluogi cynhyrchu dur yn fwy gwyrdd ym Mhort Talbot. Ym mis Hydref, sefydlwyd Bwrdd Pontio i gefnogi’r bobl, y busnesau a’r cymunedau  yr effeithir arnynt gan y pontio arfaethedig i waith dur CO2 isel. 

Nid yw’r Bwrdd Pontio yn goruchwylio’r buddsoddiad arfaethedig o £1.25bn yn y gwaith dur CO₂ isel yn Tata Steel UK. Mater i’r cwmni yw goruchwylio hyn gyda’r Adran Busnes a Masnach, Llywodraeth y DU.

Gwnaeth Tata Steel gyhoeddiad arall ar 19 Ionawr 2024 eu bod yn bwriadu parhau â’u cynlluniau datgarboneiddio, ac yn sicrhau bod £130 miliwn ychwanegol ar gael i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt.

Cyhoeddwyd ar 1 February 2024