Stori newyddion

Penodi David Jones yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Mae AS Gorllewin Clwyd, David Jones wedi cael ei benodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Heddiw cyhoeddodd y Prif Weinidog fod Mr Jones wedi’…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae AS Gorllewin Clwyd, David Jones wedi cael ei benodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Heddiw cyhoeddodd y Prif Weinidog fod Mr Jones wedi’i ddyrchafu i rol Cabinet, gan dderbyn cyfrifoldeb am gynrychioli buddiannau Cymru yn San Steffan. 

Mr Jones, sy’n byw yn Llandrillo-yn-Rhos yng Ngogledd Cymru, yw 16eg  Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae wedi gweithio fel Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru yn y gorffennol.

Yn siarad ar ol ei benodiad, dywedodd Mr Jones:

“Fel Cymro balch, mae’n anrhydedd ac yn fraint fy mod wedi cael fy mhenodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

“Mae Cymru wedi bod yn gartref i mi bron trwy gydol fy mywyd i gyd. Dyma lle ddysgais fy mhroffesiwn, lle sefydlais fy musnes fy hun ac yma rwyf wedi magu fy nheulu. Mae’n gartref i mi.

“Fel y rhan fwyaf o’r Cymry, mae gennyf uchelgais enfawr sef gweld ansawdd bywyd yng Nghymru yn blodeuo ac yn ffynnu. Fel Ysgrifennydd Gwladol, byddaf yn sicrhau bod ymdrechion Swyddfa Cymru yn cael eu defnyddio i’r perwyl hwn.

“Rydym yn byw mewn cyfnod o ddatganoli, ond nid yw datganoli’n golygu na ddylai’r gweinyddiaethau yn Llundain a Bae Caerdydd beidio a gwneud pob ymdrech i weithio gyda’i gilydd i wella bywydau pobl yng Nghymru. Yn wir, bydd pobl Cymru wedi eu siomi os ydynt yn teimlo nad yw’r ddwy Lywodraeth yn cydweithredu’n llawn.

Cyhoeddwyd ar 4 September 2012