Consultation outcome

Rhagair y Gweinidogion: cynnig i ychwanegu asid ffolig at flawd

Updated 21 September 2021

Logos for the Department of Health and Social Care (England), the Welsh Government, the Scottish Government and the Department of Health (Northern Ireland)

Bob blwyddyn yn y DU, mae tua 1,000 o achosion o feichiogrwydd yn cael eu heffeithio gan namau ar y tiwb nerfol sy’n medru newid bywydau.

Mae’r namau geni hyn yn digwydd pan na fydd rhannau o fadruddyn y cefn yn datblygu’n iawn, gan effeithio ar yr ymennydd, asgwrn y cefn neu fadruddyn y cefn. Gall rhai o’r achosion fod yn angheuol, ac mae nifer yn arwain at gymhlethdodau iechyd i’r plentyn drwy gydol ei oes.

Ceir tystiolaeth gref y gellir osgoi llawer o namau ar y tiwb nerfol trwy gynyddu cymeriant asid ffolig menywod.

Mae tystiolaeth ddiweddar yn achosi pryder gan fod llai a llai o fenywod yn bodloni’r lefelau sy’n cael eu hargymell drwy eu deiet yn unig.

Y cyngor ar hyn o bryd i fenywod sy’n ceisio beichiogi, neu sy’n debygol o feichiogi, yw cymryd atchwanegiad dyddiol o asid ffolig. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod tua hanner yr achosion o feichiogrwydd yn y DU heb eu cynllunio.

Mae hyn wedi arwain at alwadau i gyfnerthu blawd ag asid ffolig. Gwelir cyfnerthu fel y ffordd fwyaf effeithiol o gyrraedd at y rhai â’r cymeriant isaf sef, yn gyffredinol, menywod iau o ardaloedd difreintiedig.

Fel gweinidogion ac Ysgrifennydd Parhaol sy’n gyfrifol am iechyd y cyhoedd yn ein 4 gwlad, rydym oll am gymryd camau i helpu i atal y risg di-angen hwn i iechyd y newyddanedig.

Rydym wedi dod ynghyd i gynnal yr ymgynghoriad hwn gyda’n gilydd, oherwydd bydd unrhyw gamau sy’n cael eu cymryd yn effeithio ar ddiwydiannau sy’n gweithredu ar draws y DU yn gyfan.

Gobeithio y bydd aelodau’r cyhoedd a sefydliadau trydydd sector yn ogystal â’r diwydiant a’r gymuned wyddonol yn ymateb.

Byddwn yn ystyried pob barn er mwyn sicrhau y bydd unrhyw gamau sy’n cael eu cymryd yn sicrhau’r manteision mwyaf posibl i iechyd ac yn osgoi unrhyw effaith negyddol.

Diolch ymlaen llaw am eich ymatebion.

Llofnodwyd gan

Seema Kennedy, Aelod o Senedd y DU, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Iechyd (Iechyd y Cyhoedd a Gofal Sylfaenol)

Vaughan Gething, Aelod o Gynulliad Cymru, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Joe FitzPatrick, Aelod o Senedd yr Alban, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Chwaraeon a Llesiant

Richard Pengelly, Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Iechyd, Gogledd Iwerddon