Consultation outcome

Cynnig i ychwanegu asid ffolig at flawd: dogfen ymgynghori

Updated 21 September 2021

1. Crynodeb

Mae Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig yn ceisio barn ar y cynnig i wneud cyfnerthu blawd ag asid ffolig yn orfodol. Y nod yw helpu i leihau Namau ar y Tiwb Nerfol mewn plant sydd heb gael eu geni drwy godi lefelau ffolad menywod a allai feichiogi.

Ystyr ‘cyfnerthu blawd ag asid ffolig yn orfodol’ yw ei gwneud yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ychwanegu asid ffolig at flawd.

Amcanion polisi’r ymgynghoriad hwn yw:

  • lleihau nifer yr achosion o namau ar y tiwb nerfol trwy gynyddu cymeriant dietegol o asid ffolig, a lefelau ffolad gwaed, mewn menywod a allai feichiogi
  • sicrhau nad oes cynnydd yn nifer y bobl sy’n mynd y tu hwnt i lefel y cymeriant asid ffolig a argymhellir
  • lleihau’r baich gweinyddol ac unrhyw effaith gystadleuol ar fusnesau
  • sicrhau bod y cynigion yn gymesur, yn effeithiol, ac y gellir eu gorfodi

Yn berthnasol yma mae Rheoliadau Bara a Blawd 1998, sy’n rhoi manylion am y gofynion cyfnerthu presennol yn y pedair gwlad.

Mae asesiad effaith wedi cael ei baratoi i gyd-fynd â’r ymgynghoriad hwn, a dylid ei ddarllen ochr yn ochr â’r ddogfen ymgynghori hon.

2. Namau ar y tiwb nerfol

Namau ar y tiwb nerfol yw namau geni ar ymennydd, asgwrn cefn neu fadruddyn y cefn ffetws, gyda nam yn natblygiad y madruddyn a’r fertebrau o’i gwmpas yn gadael bwlch ym madruddyn y cefn, gan olygu nad yw’r madruddyn yn datblygu’n iawn neu ei fod wedi’i niweidio.

Weithiau bydd y croen a’r cyhyrau dros yr asgwrn cefn ar goll, gan arwain at berygl uchel o haint.

Mae namau ar y tiwb nerfol yn codi yn ystod wythnosau cyntaf beichiogrwydd, yn aml cyn i fenyw hyd yn oed wybod ei bod yn feichiog.

Y ddau nam ar y tiwb nerfol mwyaf cyffredin yw spina bifida ac anenceffali. Mae’r rhain yn gyflyrau a all fod yn ddinistriol, ac sy’n amrywio mewn difrifoldeb o un unigolyn i’r llall. Gall rhai achosion fod yn llai difrifol (ee abnormaleddau caeedig ac abnormaleddau mân yn yr esgyrn) ac ni fyddant yn cael fawr o effaith ar allu unigolyn i fyw bywyd llawn ac egnïol. Serch hynny, mewn achosion mwy difrifol (ee abnormaleddau agored ac abnormaleddau sy’n ymwneud â madruddyn y cefn), gall y cyflyrau fod yn angheuol neu gallant gael effaith sylweddol ar fywyd y person sy’n dioddef ac ar fywyd y teulu.

Mae’r niwed i rai nerfau’n golygu y gallai’r baban gael ei eni’n baraplegig – hynny yw wedi’i barlysu a cholli teimlad yn y coesau , ac o bosib bydd swyddogaethau eraill fel rheolaeth y bledren a’r coluddyn hefyd yn gallu cael eu heffeithio.

Anenceffali yw’r cyflwr pan fo rhan sylweddol o’r ymennydd a chroen y pen heb ddatblygu.

3. Nifer yr achosion o feichiogrwydd sy’n cael eu heffeithio

Amcangyfrifir bod tua 1,000 o achosion o feichiogrwydd yn cael diagnosis o nam ar y tiwb nerfol bob blwyddyn yn y DU[footnote 1]. Gall hyn arwain at derfynu beichiogrwydd, camesgoriad, marwolaeth yn fuan ar ôl genedigaeth, neu anabledd hirdymor y babi, gyda difrifoldeb yr anabledd hwnnw’n amrywio.

Mae’n debyg bod gwir nifer yr achosion o feichiogrwydd sy’n cael eu heffeithio yn uwch oherwydd bod rhai menywod yn cam-esgor cyn y diagnosis, ac mae’n bosibl nad yw rhai achosion llai o spina bifida yn cael eu canfod o gwbl.

4. Asid ffolig a namau ar y tiwb nerfol

Mae ffolad yn fitamin toddadwy mewn dŵr, ac fe’i gelwir hefyd yn fitamin B9. Fe’i ceir yn naturiol mewn llawer o fwydydd megis llysiau deiliog gwyrdd. Ffurf synthetig o ffolad yw asid ffolig. Mae’n cael ei ddefnyddio i gyfnerthu bwyd (ee grawnfwydydd brecwast) ac mewn atchwanegiadau (‘tabledi fitamin’). Mae’r term ‘ffolad’ yn derm ambarél sy’n cynnwys ffoladau naturiol ac asid ffolig synthetig. Nid oes modd i’r corff gynhyrchu ffolad, na’i storio, ac felly mae’n rhaid ei gynnwys yn ddyddiol yn y diet.

Mae lefelau o ffolad mewn unigolion yn amrywio yn ôl oedran a grŵp poblogaeth. Er nad yw diffyg ffolad yn broblem fawr i’r rhai sy’n bwyta diet cytbwys, nid yw llawer o bobl yn cael y cymeriant a argymhellir.

Mae canlyniadau diffyg ffolad yn golygu bod menywod beichiog mewn mwy o berygl o roi genedigaeth i blant â namau ar y tiwb nerfol, ac ym mhob oedolyn, gall math arbennig o anaemia ddatblygu o ganlyniad i ddiffygiad ffolad hirdymor. Ceir rhagor o wybodaeth yn NHS Choices neu ffeithlen Cymdeithas Ddieteteg Prydain

Amcangyfrifir bod statws ffolad tua 90% o fenywod 16-49 oed yn is na’r lefel a argymhellir i leihau’r perygl o feichiogrwydd sydd wedi’i effeithio gan nam ar y tiwb nerfol; ac amcangyfrifir bod gan 28% o ferched 11-18 oed, 15% o fechgyn 11-18 oed a 7% o oedolion lefelau isel o ffolad gwaed, sydd hefyd yn eu rhoi mewn perygl o anaemia[footnote 2].

Ceir tystiolaeth gref y gellir osgoi llawer o namau ar y tiwb nerfol trwy gynyddu cymeriant asid ffolig menywod, ac mae cyngor ar gael i fenywod a allai feichiogi.

Fodd bynnag, yn y DU, amcangyfrifir bod tua hanner yr achosion o feichiogrwydd heb eu cynllunio. Mae namau ar y tiwb nerfol yn digwydd ym mhedair wythnos gyntaf beichiogrwydd cyn i lawer o fenywod wybod eu bod yn feichiog. Hyd yn oed yn yr achosion hynny o feichiogrwydd sydd wedi cael eu cynllunio, nid oes llawer o famau’n cymryd atchwanegiadau asid ffolig nac yn addasu eu diet er mwyn cynyddu eu cymeriant ffolad cyn cenhedlu a hyd at 12fed wythnos eu beichiogrwydd. Amcangyfrifir mai dim ond un o bob pump o fenywod sy’n dweud eu bod yn cymryd asid ffolig cyn beichiogrwydd, a cheir cynnydd i dair ymhob pump o fenywod unwaith mae eu beichiogrwydd wedi’i gadarnhau.

Prin yw effaith ymdrechion i gynyddu lefelau ffolad trwy addysg. Mae hyn wedi arwain at alwadau i gyfnerthu blawd ag asid ffolig yn orfodol er mwyn darparu cefndir o gymeriant dietegol i helpu i gynyddu lefelau ffolad menywod a allai feichiogi. Byddai cyfnerthu hefyd yn helpu’r boblogaeth ehangach i gyrraedd lefelau cymeriant ffolad a argymhellir.

5. Y cyngor cyfredol i fenywod sy’n ystyried cael babi

Mae Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig yn argymell y dylai menywod a allai feichiogi gymryd atchwanegiad (tabled) dyddiol 400 microgram o asid ffolig cyn cenhedlu a hyd at 12fed wythnos eu beichiogrwydd.

Maent hefyd yn cael eu cynghori i gynyddu eu cymeriant ffolad dyddiol drwy fwyta bwydydd sy’n llawn ffolad a bwydydd sydd wedi’u cyfnerthu ag asid ffolig.

Fe fyddai’r cyngor hwn yn parhau hyd yn oed pe bai blawd yn cael ei gyfnerthu ag asid ffolig. Cynghorir menywod sydd wedi cael beichiogrwydd a effeithiwyd gan nam ar y tiwb nerfol yn y gorffennol neu sydd â hanes o spina bifida neu debyg yn eu teulu (neu yn nheulu tad y babi) i gymryd 5 miligram[footnote 3] o asid ffolig bob dydd hyd at 12fed wythnos eu beichiogrwydd.

Yn ogystal, cynghorir menywod sy’n dioddef o ddiabetes a’r rheini sy’n cymryd meddyginiaethau atal epilepsi i ymgynghori â’u meddyg, oherwydd byddai angen iddynt o bosibl gymryd dos uwch o asid ffolig.

Mae atchwanegiadau 400 microgram o asid ffolig ar gael yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd, fferyllfeydd a siopau bwyd iach. Mae cost y tabledi asid ffolig hyn yn amrywio, yn dibynnu lle rydych yn eu prynu, gyda’r pris yn dechrau o lai nag 1c/tabled (£1 am 180 o dabledi) am gynhyrchion brand archfarchnad (neu debyg). Mae tabledi asid ffolig cryfder uwch (4mg a mwy) ar gael ar bresgripsiwn.

Ceir negeseuon addysg iechyd wedi’u targedau at fenywod o oedran beichiogi mewn amrywiaeth o leoliadau, sy’n sôn am namau ar y tiwb nerfol a’r angen am atchwanegiadau. Mae gwefannau llywodraeth[footnote 4] yn darparu gwybodaeth am gyngor ffordd iach o fyw yn ystod beichiogrwydd, yn cynnwys pwysigrwydd atchwanegiadau asid ffolig. Fodd bynnag, hwyrach nad yw’r negeseuon hyn wedi cyrraedd menywod mewn pryd er mwyn iddynt gynyddu eu cymeriant ffolad cyn cenhedlu, sy’n egluro’r galw am ymyrraeth i sicrhau gostyngiad mewn achosion o feichiogrwydd sy’n cael eu heffeithio gan namau ar y tiwb nerfol, a’r effaith o ganlyniad ar deuluoedd a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

6. Rhesymau dros gynnig ychwanegu asid ffolig at flawd

Yn y DU, mae rhai bwydydd, megis grawnfwydydd brecwast, yn cael eu cyfnerthu ag asid ffolig yn wirfoddol. Fodd bynnag, nid yw’r bwydydd hyn sydd wedi cael eu cyfnerthu yn cael eu bwyta gan bob rhan o’r boblogaeth ac efallai nad ydynt yn cyrraedd menywod ar incwm isel o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig, lle mae’r cymeriant o atchwanegiadau asid ffolig yn is.

Hyd yn oed wrth gyfnerthu’n wirfoddol, mae data o’r naw mlynedd diwethaf yn dangos bod cymeriant ffolad menywod a allai feichiogi wedi parhau i ostwng, a’u bod yn isel iawn mewn ardaloedd o amddifadedd. Mae yma gyfle felly i gynyddu cefndir cymeriant dietegol ffolad menywod i lefel a fyddai’n eu hamddiffyn yn well rhag beichiogrwydd sy’n cael ei effeithio gan namau ar y tiwb nerfol.

Ar draws y DU, mae blawd gwenith nad yw’n wenith cyflawn eisoes wedi’i sefydlu fel cyfrwng cyfnerthu ac yn cael ei fwyta’n rheolaidd gan y rhan fwyaf o fenywod a allai feichiogi waeth beth fo’u hincwm a’u cymeriant ffolad. Yn wir, dyma sy’n cael ei fwyta fwyaf ar draws unrhyw grŵp o’r boblogaeth oedolion gyda rhyw 90% o bobl yn bwyta cynhyrchion sy’n cynnwys blawd. Er enghraifft: bisgedi, nwyddau pob megis cacennau, croissants, a rhai mathau o stwffin a chymysgeddau grefi.

Fodd bynnag, o ran y blawd a ddefnyddir yn benodol ar gyfer gwneud bara, o’i roi yn ei gyd-destun, mae tua 29% o fenywod yn bwyta ychydig iawn o fara ac felly yn bwyta llai na 10g o flawd o fara bob dydd.

Mae’r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg yn argymell cyfnerthu blawd ag asid ffolig yn orfodol i wella statws ffolad menywod sy’n fwyaf tebygol o gael beichiogrwydd a fyddai’n cael ei effeithio gan namau ar y tiwb nerfol (gweler ‘Adroddiadau’r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg’).

Mae cyfnerthu gorfodol wedi llwyddo i ostwng cyfraddau namau ar y tiwb nerfol mewn gwledydd eraill.

7. Effeithiau niweidiol posibl gwneud cyfnerthu ag asid ffolig yn orfodol

I’r mwyafrif llethol, nid yw cymeriant ffolad drwy’r diet arferol, gan gynnwys atchwanegiadau bwyd a argymhellir i fenywod a allai feichiogi, yn peryglu iechyd.

Serch hynny, o ganlyniad i ddewis personol, nid pawb sy’n dymuno bwyta bwyd sy’n cynnwys asid ffolig ychwanegol. Yn ogystal, mae’n bosib y cynghorir pobl sy’n cymryd meddyginiaethau penodol i gadw llygaid ar yr asid ffolig a gymerant yn sgil unrhyw ryngweithio posibl â’u meddyginiaeth. Byddwn yn sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i hyn os bydd y polisi’n cael ei weithredu.

Mae pryderon y gall cymeriant uchel cyson o atchwanegiadau asid ffolig gynyddu’r perygl o guddio neu ystumio diffyg fitamin B12 mewn pobl â chyflwr a gaiff ei adnabod fel anaemia dinistriol.

Cyflwr awto-imiwn yw anaemia dinistriol sy’n effeithio ar y stumog ac yn atal y corff rhag amsugno fitamin B12. Mae’n fwy cyffredin ymysg unigolion hŷn, a dyma’r rheswm mwyaf cyffredin dros ddiffyg fitamin B12.

Anaemia a/neu nam niwrolegol (niwed i’r system nerfol) yw arwyddion clinigol diffyg fitamin B12. Mae cymeriant uchel o asid ffolig yn gallu trin symptomau anaemia ond nid yw’n gallu trin diffyg B12. Fodd bynnag, y symptomau a gysylltir ag anaemia yn aml yw’r rheswm pam mae pobl â diffyg B12 yn gofyn am gyngor meddygol. Felly gallai cymeriant uchel o asid ffolig ohirio’r diagnosis o ddiffyg B12. Os nad yw diffyg B12 yn cael ei drin fe allai, mewn achosion prin, arwain at niwed niwrolegol na ellir ei wrthdroi. Mae diagnosteg meddygol da yn gostwng y risg bach hwn ymhellach.

Yn eu hadroddiadau, fe wnaeth y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg ystyried yn fanwl y peryglon posibl sy’n gysylltiedig â dosau uchel cyson o asid ffolig. Y peryglon oedd:

  • cuddio/gwaethygu statws fitamin B12 isel
  • dirywiad gwybyddol ymysg unigolion hŷn
  • canser (prostad, bron, coluddyn a’r rhefr a pherygl cyffredinol)
  • effeithiau hirdymor asid ffolig anfetabolaidd (heb brosesu) yn y corff

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad yw cymeriant asid ffolig o hyd at 1mg y dydd yn gysylltiedig â chuddio anaemia sy’n gysylltiedig â diffyg fitamin B12, a nododd nad yw mynychder diffyg B12, gyda neu heb anaemia, wedi cynyddu ers cyflwyno cyfnerthu’n orfodol yn yr Unol Daleithiau.

Wnaeth y Pwyllgor ddim darganfod bod atchwanegiadau asid ffolig yn cael unrhyw effaith ar ddirywiad gwybyddol unigolion hŷn. Mae’r dystiolaeth o gysylltiad rhwng cymeriant asid ffolig gormodol a chanser yn anghyson. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad, er gwaethaf yr anghysonderau a’r cyfyngiadau yn y data, nad yw’r darlun cyflawn yn awgrymu bod asid ffolig yn cael effaith niweidiol ar y perygl o ganser.

Pryder posibl pellach yw effeithiau hirdymor asid ffolig anfetabolaidd yn y cylchrediad systemig. Fodd bynnag, nid oes perthynas glir rhwng cymryd asid ffolig a’r lefelau o asid ffolig anfetabolaidd yn y cylchrediad systemig, ac mae’r data’n annigonol i asesu os yw presenoldeb asid ffolig anfetabolaidd yn y cylchrediad systemig yn gysylltiedig ag unrhyw ganlyniadau iechyd niweidiol.

8. Cymeriant asid ffolig - y terfyn uchaf a ystyrir yn ddiogel

Ym mis Chwefror 2019 cyhoeddwyd datganiad gan y Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a’r Amgylchedd yn mynegi’r farn y dylai terfyn uchaf y cymeriant asid ffolig o atchwanegiadau fod yn 1mg/dydd (1,000 microgram).

Cytunwyd bod rhywfaint o dystiolaeth o guddio anaemia dinistriol pan mae’r cymeriant yn 5mg/dydd, ond prin oedd y dystiolaeth ar lefel cymeriant o 1mg/dydd. Nid oedd modd egluro sut mae’r perygl o guddio diffyg B12 yn gwahaniaethu gyda chymeriannau cynyddol o asid ffolig uwch nag 1mg.

Hefyd, nododd y Pwyllgor, pe bai diagnosis o anaemia dinistriol yn datblygu i fod yn fwy dibynadwy, yna ni fyddai’n angenrheidiol gosod terfyn uchaf ar gyfer asid ffolig.

9. Adroddiad y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg

Yn 2017, diweddarodd y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg ei adolygiadau blaenorol o effaith asid ffolig ar ganlyniadau iechyd penodol, mewn ymateb i gais oddi wrth Safonau Bwyd yr Alban. Canlyniad adroddiad 2017 y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg oedd nad oedd eu hargymhellion blaenorol (a gyhoeddwyd yn 2006 a 2009) wedi newid, a’u bod yn parhau i argymell cyfnerthu blawd ag asid ffolig yn orfodol i wella statws ffolad menywod sydd yn y perygl mwyaf o feichiogrwydd a fyddai’n cael ei effeithio gan namau ar y tiwb nerfol. Cydnabu’r Pwyllgor bod rhai peryglon posibl yn gysylltiedig â chymeriant asid ffolig gormodol. Argymhellir felly y dylai unrhyw ymgais i wneud cyfnerthu blawd yn orfodol hefyd gynnwys cyfyngiadau ar gyfnerthu gwirfoddol o fwydydd eraill ag asid ffolig, ynghyd â chyfarwyddyd clir ar ddefnyddio atchwanegiadau asid ffolig. Y nod oedd sicrhau nad oedd cynnydd yn y niferoedd â chymeriant ffolad uwch na’r lefel uchaf a argymhellir.

10. Ymarfer modelu Safonau Bwyd Yr Alban

Mae Safonau Bwyd yr Alban wedi cynnal ymarfer modelu i archwilio effaith bosibl cyfnerthu bara neu flawd gwenith ag asid ffolig ar gymeriant ffolad yn y DU, ac i amcangyfrif effeithiolrwydd a diogelwch y gwahanol opsiynau gyda’r bwriad o leihau nifer yr achosion o namau ar y tiwb nerfol.

Mae canlyniadau’r modelu yn dangos bod cyfnerthu blawd ag asid ffolig yn orfodol yn debygol o leihau’r mynychder o gymeriant ffolad isel gan arwain at ostyngiad yn nifer yr achosion o feichiogrwydd sy’n cael eu heffeithio gan namau ar y tiwb nerfol. Roedd y modelu yn dangos bod y gostyngiad posibl yn y peryglon os yw pob blawd yn cael ei gyfnerthu tua dwbl y gostyngiad wrth gyfnerthu blawd bara yn unig, gan gymryd yn ganiataol bod lefel y cyfnerthu yr un fath. Ar yr un pryd, disgwylir y byddai capio bwydydd ac atchwanegiadau wedi’u cyfnerthu’n wirfoddol yn lleihau’r mynychder o gymeriant uwch na’r lefel uchaf a argymhellir (gweler yr asesiad effaith am ragor o wybodaeth). Mae’r canlyniad yn gyson â modelu blaenorol y DU yn adroddiad 2006 y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg.

11. Gwledydd eraill sy’n ychwanegu asid ffolig at flawd

Mae’r defnydd o flawd, yn arbennig blawd gwenith, fel cynnyrch i’w gyfnerthu ag asid ffolig wedi cael ei fabwysiadu mewn mwy na 60 o wledydd ar draws y byd (gan gynnwys Awstralia, Canada a’r Unol Daleithiau). Ei brif fantais, wrth gymharu â bwydydd eraill wedi’u cyfnerthu, yw bod blawd yn cael ei fwyta’n eang ar ryw ffurf neu’i gilydd.

Mae gwledydd sydd wedi gwneud cyfnerthu ag asid ffolig yn orfodol wedi gweld gostyngiad yng nghyfraddau namau ar y tiwb nerfol o rhwng 16% a 58%, ac nid ydynt wedi nodi cynnydd yn y peryglon a gysylltir â chyfnerthu. Fodd bynnag, mae’n bosibl nad oes gan y gwledydd hyn ddiet neu boblogaethau tebyg i’r DU.

Ar hyn o bryd, nid oes gan unrhyw wlad yn yr UE bolisi gorfodol o gyfnerthu blawd ag asid ffolig.

12. Pa flawd sy’n cael ei gyfnerthu ar hyn o bryd, a sut?

Mae Rheoliadau Bara a Blawd 1998 (BFR) yn ei gwneud yn ofynnol i gyfnerthu blawd gwenith nad yw’n wenith cyflawn sydd:

  • wedi’i falu yn y DU, neu ei fewnforio i Gymru, Lloegr neu’r Alban, o wlad y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop, ar yr amod nad yw’r blawd eisoes wedi cael ei osod yn gyfreithlon ar y farchnad mewn gwlad AEE, ac

  • wedi’i fwriadu i gael ei osod ar y farchnad neu ei ddefnyddio mewn cynhyrchion yng Nghymru, Lloegr, neu’r Alban

Mae Rheoliadau Bara a Blawd (Gogledd Iwerddon) 1998 (BFR NI) yn ei gwneud yn ofynnol cyfnerthu blawd gwenith nad yw’n wenith cyflawn sydd:

  • wedi’i falu yn y DU, neu ei fewnforio i Ogledd Iwerddon o wlad tu allan i Ardal Economaidd Ewrop, ar yr amod nad yw’r blawd eisoes wedi cael ei osod yn gyfreithlon ar y farchnad mewn gwlad AEE, ac

  • wedi’i fwriadu i gael ei osod ar y farchnad neu ei ddefnyddio mewn cynhyrchion yng Ngogledd Iwerddon

Mae’r ddwy set o reoliadau yn eithrio blawd y bwriedir ei ddefnyddio i wneud wafferi cymun, matzos, glwten, startsh neu gymysgedd crynodedig a ddefnyddir i hwyluso ychwanegiad yr atchwanegiadau cyfnerthu gofynnol i flawd.

Mae’r ddwy set o reoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i flawd o fewn eu ffiniau gael ei gyfnerthu â chalsiwm (ar gyfer iechyd), a chyda’r fitaminau a’r mwynau canlynol (i adfer maetholion a gollir yn ystod y broses falu):

  • haearn
  • niasin (asid niconotig neu nicotinamid, a adnabyddir hefyd fel fitamin B3)
  • thiamin (a adnabyddir hefyd fel fitamin B1)

Mae cyfnerthu gorfodol fel hyn o ganlyniad i ofynion domestig (nid yr UE). Y diwydiant sy’n talu’r costau.

Mae Cymdeithas Genedlaethol Melinwyr Blawd Prydain ac Iwerddon yn adrodd yn eu ffeithiau a’u ffigurau ar y diwydiant melino blawd y DU 2018 bod mwy na 60% o’r blawd a gynhyrchir yn y DU yn flawd gwenith nad yw’n wenith cyflawn. Mae’r rhan fwyaf o’r gweddill yn gynnyrch startsh a blawd gwenith cyflawn.

Rydym yn cynnig mai diffiniad BFR o flawd gwenith nad yw’n wenith cyflawn a ddylai gael ei gymryd fel gwaelodlin wrth ystyried y cynnig hwn i gyfnerthu. Nid yw cynhyrchion eraill, megis rhai heb glwten, yn cael eu cwmpasu gan y BFR, sy’n rheswm arall pam ei bod yn bwysig bod â neges glir ynglŷn â’r angen parhaol am atchwanegiadau asid ffolig i bob menyw a allai feichiogi.

13. Goblygiadau ehangach i’r Rheoliadau Bara a Blawd

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, byddai unrhyw benderfyniad ar gyfnerthu ag asid ffolig yn orfodol yn cael ei ystyried gan bob gwlad yn y DU, ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, sy’n gyfrifol am y gofynion presennol ynglŷn â chyfnerthu blawd. Pe bai’r penderfyniadau a wneir yn gofyn am newid deddfwriaethol (un ai i newid rheolau presennol neu i greu deddfwriaeth newydd), byddem yn ystyried ar yr adeg honno beth fyddai hyn yn ei olygu i’r BFR ac i’r BFR NI.

Byddai hyn hefyd yn cymryd i ystyriaeth unrhyw newidiadau eraill posibl i’r BFR i’r BFR NI (ddim yn gysylltiedig yn benodol â chyfnerthu ag asid ffolig) a fyddai’n ofynnol efallai yn sgil ymadael â’r UE a thu hwnt. Byddem yn ymdrechu i ystyried yr holl newidiadau posibl i’r BFR presennol ar yr un pryd er mwyn lleihau effeithiau ar fusnesau a cholled posibl i ddefnyddwyr o ganlyniad.

Nid oes bwriad i’r ymgynghoriad hwn ymdrin â’r agweddau hynny.

14. Cyfyngiad ar asid ffolig mewn bwydydd sy’n cael eu cyfnerthu’n wirfoddol ar hyn o bryd

Os bydd yr ymateb i’r ymgynghoriad hwn yn nodi y dylai blawd gael ei gyfnerthu ag asid ffolig, byddwn yn gweithio gyda diwydiant i ystyried pa effaith bosibl a gaiff hyn ar gyfnerthu cynhyrchion eraill yn wirfoddol ac atchwanegiadau bwyd, er mwyn sicrhau nad yw pobl yn mynd y tu hwnt i derfyn uchaf y cymeriant a argymhellir. Byddai unrhyw newidiadau o ganlyniad yn cael eu cyflwyno dros gyfnod o amser wedi’i gytuno er mwyn sicrhau bod gan wneuthurwyr a rhanddeiliaid eraill amser i gyfarwyddo ac addasu yn ôl y gofyn. Byddai hyn hefyd yn cymryd i ystyriaeth faterion ymarferol megis addasu labeli er mwyn lleihau baich unrhyw newidiadau.

Cafodd cyfyngiad ar asid ffolig mewn cynhyrchion wedi’u cyfnerthu’n wirfoddol ei ystyried fel rhan o’r ymarfer modelu gan Safonau Bwyd yr Alban, a oedd yn cynnwys senarios lle’r oedd cynhyrchion ac atchwanegiadau o’r fath â’u hasid ffolig wedi’i gapio yn hytrach na’i eithrio. Roedd y canlyniadau’n dangos bod cyfuniadau o gyfnerthu ag asid ffolig yn orfodol law yn llaw â chyfnerthu gwirfoddol ac atchwanegiadau wedi cael eu capio yn gallu cyflawni gostyngiad yn y perygl o namau ar y tiwb nerfol, gan hefyd leihau mynychder cymeriant isel yn ogystal â chymeriant uwch na’r terfyn uchaf a argymhellir.

15. Casgliad

Mae’r ddogfen ymgynghori hon wedi amlinellu’r cynnig i gyfnerthu blawd gwenith nad yw’n flawd gwenith cyflawn ag asid ffolig yn y DU yn orfodol, er mwyn gostwng nifer yr achosion o feichiogrwydd sy’n cael eu heffeithio gan namau ar y tiwb nerfol. Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael yn yr Asesiad Effaith. Gan gadw’r holl wybodaeth hon mewn cof, gofynnir i chi ystyried cwestiynau’r ymgynghoriad.

16. Cwestiynau’r Ymgynghoriad

Cliciwch ar y cwestiynau i ateb ar eich rhan chi neu’ch sefydliad.

Cynnig i ychwanegu asid ffolig at flawd

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i gyfnerthu blawd gwenith nad yw’n wenith cyflawn yn y DU yn orfodol ag asid ffolig i helpu i atal namau ar y tiwb nerfol?

Pa gynnyrch ddylid eu cynnwys?

Pa rai o’r canlynol ddylid eu cyfnerthu ag asid ffolig yn orfodol yn eich barn chi? Dewiswch un.

  • dim ond blawd gwenith nad yw’n wenith cyflawn yn y DU (y math a ddefnyddir fwyaf aml)
  • dim ond blawd gwenith nad yw’n wenith cyflawn a ddefnyddir i wneud bara yn y DU
  • pob blawd yn y DU, gan gynnwys gwenith cyflawn a mathau eraill o rawn
  • pob blawd yn y DU, a chynhyrchion eraill nad ydynt yn cynnwys gwenith, megis rhai ‘heb glwten’
  • ni ddylid cyfnerthu unrhyw gynnyrch ag asid ffolig yn orfodol

Dulliau gweithredu amgen

A fyddai’n well gennych ddefnyddio unrhyw ffyrdd amgen o helpu i leihau’r achosion o namau ar y tiwb nerfol, yn hytrach na’n cynnig i gyfnerthu blawd ag asid ffolig yn orfodol?

Yr effaith ar unigolion a busnesau

A oes grwpiau neu unigolion penodol a fyddai’n cael eu heffeithio’n negyddol gan gyfnerthu blawd ag asid ffolig yn orfodol, neu a fyddai’n colli allan ar y manteision?

Sut fedrwn ni sicrhau bod y grwpiau neu unigolion hyn yn cael cymorth neu nad oes effaith negyddol arnynt?

A oes unrhyw fusnesau a fyddai’n cael eu heffeithio’n negyddol gan gyfnerthu blawd ag asid ffolig yn orfodol, neu a fyddai’n colli allan ar y manteision?

Sut fedrwn ni sicrhau bod y busnesau hyn yn cael cymorth neu nad oes effaith negyddol arnynt?

Cyfnerthu gwirfoddol

Os bydd cyfnerthu blawd ag asid ffolig yn cael ei wneud yn orfodol, a ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylid gosod terfynau ar gyfnerthu cynnyrch bwyd a/neu atchwanegiadau eraill ag asid ffolig yn wirfoddol?

Asesiad effaith

A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r dadansoddiad cost a budd a amlinellir yn yr asesiad effaith?

A allwch ddarparu unrhyw dystiolaeth ychwanegol i’r asesiad effaith?

A ydych chi’n rhagweld unrhyw fanteision, costau neu effeithiau ehangach eraill yn sgil y cynnig polisi hwn nad ydynt wedi eu hystyried hyd yma?

Ystyriaethau ymarferol i fusnesau

Beth yw’r ystyriaethau ymarferol y mae’n rhaid meddwl amdanynt o ran cyfnerthu ag asid ffolig yn orfodol?

A ddylid ystyried unrhyw oblygiadau masnach pellach i ddiwydiant?

A ddylid ystyried unrhyw effeithiau ar fusnesau bach neu ganolig? (Busnesau bach a chanolig yw busnesau â llai na 250 o weithwyr cyflogedig.)

  1. Dadansoddiad DHSC o ddata https://www.ons.gov.uk ar y cyfanswm o enedigaethau a http://www.eurocat-network.eu/ ar fynychder Namau ar y Tiwb Nerfol fesul 10,000 genedigaeth. 

  2. Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Ddiet a Maetheg yn amcangyfrif bod gan 90% o fenywod o oedran cenhedlu yn y DU lefel ffolad celloedd coch y gwaed is na’r trothwy ar gyfer y lefel osgoi orau ar gyfer namau ar y tiwb nerfol mewn ffetws sy’n sensitif i ffolad. 

  3. Trawsnewidiad: 1 miligram (mg) yn hafal i 1,000 microgram (μg) 

  4. Vitamins, supplements, and nutrition in pregnancy - NHS; Start4Life - NHS; Naw Mis a Mwy – GIG Cymru; Pob Plentyn Cymru; Food Standards Scotland - Pregnancy; Ready Steady Baby, nidirect Folic Acid