Ar ôl i chi wneud cais

Bydd y cais am brofiant yn cael ei atal un diwrnod gwaith ar ôl i’ch cais am gafeat gyrraedd y tîm.

Os bydd cais am brofiant yn cael ei gymeradwyo yr un diwrnod ac y byddwch yn cyflwyno cais am gafeat, yna ni fydd yn cael ei atal. I gyflwyno eich cais am gafeat ar frys, gwnewch apwyntiad i ymweld â chofrestrfa brofiant.

Mae cafeat yn para am 6 mis. Mae’n atal pob cais am brofiant ar yr ystad rhag cael ei gymeradwyo yn ystod y cyfnod hwnnw.

Os bydd y sawl sydd wedi gwneud y cais am brofiant yn gwrthwynebu eich cais am gafeat, efallai y byddant:

  • yn dod i gytundeb efo chi ac yn gofyn i chi dynnu’r cais am gafeat yn ôl

  • yn cyflwyno ‘rhybudd’ ffurfiol

Tynnu cais am gafeat yn ôl neu ei ddiwygio

Gallwch dynnu eich cais am gafeat yn ôl neu ei ddiwygio drwy e-bost neu drwy’r post. Yn eich neges e-bost neu’ch llythyr, dylech gynnwys:

  • eich cyfeirnod cafeat 16 digid

  • enw llawn yr unigolyn sydd wedi marw

  • cadarnhad eich bod eisiau tynnu’r cafeat yn ôl neu fanylion yr hyn sydd angen ei newid

Os ydych wedi ymateb i rybudd ffurfiol drwy ‘gofnodi ymddangosiad’, yna ni allwch dynnu eich cafeat yn ôl. Gellir ond ei ddileu gyda gorchymyn gan Gofrestrydd Dosbarth Profiant, Barnwr Uchel Lys neu Farnwr Rhanbarth.

Os bu i chi wneud cais ar-lein anfonwch neges e-bost i:
ymholiadau@justice.gov.uk

Os bu ichi wneud cais drwy’r post, anfonwch neges e-bost i:
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk

Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds
York House
31 York Place
Leeds
LS1 2BA

Ymateb i rybudd gan geisydd y cais am brofiant

Mae gennych 14 diwrnod i ymateb i rybudd (yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc). Os na fyddwch yn ymateb, gall ceisydd y cais am brofiant wneud cais i ddileu’r cafeat.

Gallwch ymateb drwy gofnodi ‘ymddangosiad’ neu godi ‘gwŷs’.

Cofnodi ‘ymddangosiad

I gofnodi ymddangosiad mae’n rhaid bod gennych ‘fudd croes’. Er enghraifft:

  • rydych yn credu bod yr ewyllys yn annilys a byddai gennych hawl i gofnodi ymddangosiad pe na bai ewyllys neu o dan ewyllys gynharach neu ddiweddarach

  • nid oes ewyllys ac rydych yn credu mai chi ddylai fod yn gwneud y cais am brofiant o dan y rheolau profiant

Gallwch ofyn am ffurflen ymddangosiad gan Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds. Llenwch y ffurflen a’i hanfon yn ôl atynt.

Os bydd y Cofrestrydd yn cytuno â’ch rhesymau dros gofnodi ymddangosiad, yna bydd yn gwneud y cafeat yn un parhaol. Yna, gellir ond ei ddileu gyda gorchymyn gan Gofrestrydd Dosbarth Profiant, Barnwr Uchel Lys neu Farnwr Rhanbarth.

Codi gwŷs

Nid oes angen bod gennych fudd croes i godi gwŷs. Yn hytrach, efallai eich bod yn credu bod gennych chi gymaint o hawl i wneud cais am brofiant neu rydych yn credu nad yw’r ysgutor presennol yn un addas.

Gallwch ofyn am ffurflen i godi gwŷs gan Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds. Llenwch y ffurflen a’i hanfon yn ôl gyda datganiad ffeithiau wedi’i lofnodi sy’n cynnwys eich rhesymau dros fod eisiau codi gwŷs.

Bydd y Cofrestrydd yn penderfynu pwy sydd â hawl i wneud cais am brofiant. Efallai y bydd yn awgrymu y byddai’n well i weinyddwr annibynnol ddelio â’r ystad.

Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds
0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau 9am-5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am brisiau galwadau
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk

Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds
York House
31 York Place
Leeds
LS1 2BA

Ymestyn cafeat

Gallwch ymestyn cafeat am 6 mis arall, os nad ydych wedi cofnodi ymddangosiad neu godi gwŷs.

Mae’n costio £3 i ymestyn cafeat.

Dim ond yn ystod y mis diwethaf cyn i’r cafeat ddod i ben y gallwch wneud cais am estyniad.

I ymestyn eich cafeat, llenwch ffurflen PA8B a’i hanfon i Adran Brofiant GLlTEF.


Adran Brofiant GLlTEF
BLWCH POST 12625
Harlow
CM20 9QE

I ymestyn eich cafeat ar frys, gwnewch apwyntiad i ymweld â chofrestrfa brofiant