Ad-dalu gordaliadau Budd-dal Plant

Mae’n bosibl y cewch ormod o Fudd-dal Plant os na fyddwch yn rhoi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau. Fel arfer, bydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl.

Mae ffordd wahanol o dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os talwyd gormod o Fudd-dal Plant i chi

Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn ysgrifennu atoch gan roi gwybod y canlynol i chi:

  • rydych wedi cael gordaliad
  • beth achosodd y gordaliad
  • a oes angen i chi ad-dalu’r arian
  • sut i apelio os ydych yn meddwl eu bod yn anghywir

Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael gormod o Fudd-dal Plant, cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant ar unwaith – peidiwch ag aros i’r Swyddfa Budd-dal Plant ysgrifennu atoch.

Gallech gael eich erlyn am dwyll budd-daliadau os ydych yn gwybod eich bod wedi cael gordaliad ac nad ydych yn gwneud dim byd amdano. Gallech gael dirwy neu gallech fynd i’r carchar os cewch eich dyfarnu’n euog.

Ad-dalu gordaliadau

Fel arfer, bydd yn rhaid i chi ad-dalu gordaliad ar ffurf cyfandaliad.

Bydd angen eich cyfeirnod gordaliad Budd-dal Plant arnoch. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod ar y llythyr ynghylch gordaliadau a gawsoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Bydd eich cyfeirnod yn 14 cymeriad o hyd a bydd yn dechrau gydag Y, er enghraifft YA123456789123.

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i dalu:

  • â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
  • drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol

Talu nawr

Talu ar-lein â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol.

Nid oes ffi os talwch â cherdyn debyd personol.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch dalu’n uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.

Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich ad-daliad Budd-dal Plant. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol i gymeradwyo’ch taliad.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at ddwy awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Bydd trosglwyddiad banc a wneir gan ddefnyddio bancio ar-lein neu fancio dros y ffôn fel arfer yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu ar y diwrnod nesaf.

Bydd angen i chi roi’ch cyfeirnod gordaliad Budd-dal Plant fel y cyfeirnod.

Dyma manlyion banc CThEF:

  • cod didoli: 08 32 30
  • rhif y cyfrif: 11963279
  • enw’r cyfrif: HMRC Child Benefit Remittance

Os na allwch dalu ar-lein, neu os oes angen amser arnoch i dalu

Cysylltwch â CThEF:

  • os na allwch ddod o hyd i’ch cyfeirnod gordaliad Budd-dal Plant
  • os hoffech wneud taliad â cherdyn dros y ffôn
  • os oes angen cyngor pellach arnoch o ran sut i dalu neu os oes angen rhagor o amser arnoch i dalu

Cyllid a Thollau EF
0300 200 1900
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8.30am i 5pm
Dysgwch am gostau galwadau